Prifysgol fwy cynaliadwy
25 Hydref 2012
Ydych chi wedi clywed am ddydd Mercher Llesol? Beth am yr wyth rheol aur amgylcheddol? Yn rhan o'r rhifyn hwn o Blas, rydyn ni'n rhoi crynodeb i chi o rai o bolisïau a mentrau cynaliadwy'r Brifysgol.
Rheolau Aur Amgylcheddol
Mae gan y Brifysgol wyth rheol aur i helpu'r amgylchedd, a ddatblygwyd gan yr Uned Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a'r Amgylchedd. Cliciwch ar bob un ohonyn nhw i gael gwybod rhagor.
Os gwnaiff pob un ohonon ni ychydig, gallwn ni i gyd wneud llawer
Arbedwch egni llai o bŵer, diffoddwch pan na chaiff ei ddefnyddio
Meddyliwch am eich gwastraff – Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu
Meddyliwch eto am sut rydych chi'n teithio
Caewch y ddolen – prynwch gynnyrch sy'n amgylcheddol gyfeillgar
Rhowch eich barn; Awgrymwch welliannau
(Awgrym Blas: Cadwch lygad am fatiau diodydd rhad ac am ddim sydd wedi'u gwneud o deiars wedi'u hailgylchu yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd. Arnyn nhw mae pob un o'r wyth rheol aur yma – a all eich swyddfa neu eich Ysgol gasglu pob un o'r wyth?!)
Cynllun teithio
Nod Cynllun Teithio'r Brifysgol gyfan yw annog mwy o deithio cynaliadwy a lleihau ôl troed carbon y Brifysgol. Mae'n cynnwys: cynllun rhannu lifft, seiclo i'r gwaith a mapiau cerdded y campws. Cewch wybod rhagor am y cynllun yn:www.cardiff.ac.uk/osheu/environment/greentransport/index.html
Ar ddydd Iau 1 Tachwedd, bydd gan Gwasanaethau'r Campws ragor o fanylion am y Cynllun Teithio yn y Ffair Elusennau yn y Prif Adeilad – gallwch godi mesurydd camau am ddim oddi wrthyn nhw hefyd i weld yn union faint rydych chi'n cerdded bob dydd.
Dydd Mercher Llesol
Fel rhan o Bolisi Bwyd Cynaliadwy'r Brifysgol, mae bwytai a siopau coffi'r Brifysgol wedi cyflwyno menter bwyta'n iach o'r enw Dydd Mercher Llesol. Mae Dydd Mercher Llesol yn digwydd ddwywaith y mis, a'i nod yw hyrwyddo a chynyddu'r defnydd a wneir o fwyd sydd wedi cael ei baratoi mewn ffordd iach gan ddefnyddio bwyd lleol, gyda chynhwysion tymhorol.
Cewch wybod rhagor am Ddydd Mercher Llesol ar wefan Arlwyo a Bariau'r Brifysgol:
Fideo-gynadledda
Mae fideo-gynadleddau'n galluogi deialog a chyflwyniadau byw wyneb yn wyneb, rhwng grwpiau o bobl mewn dau neu ragor o leoliadau unrhyw le yn y byd. Mae gan y Brifysgol ddwy stiwdio, sy'n rhan o Rwydwaith Fideo Cymru (WVN). Maen nhw yn Ystafell y Rheilffordd – 51 Parc y Plas, Campws Parc Cathays a'r Ystafell Fideo-gynadledda – Ystafell
1:20, Ty Dewi Sant, Campws Parc y Waun Ddyfal. I'r rhai ohonoch chi sy'n methu mynd i ystafell fideo-gynadledda, mae gwasanaethau fideo-gynadledda pen bwrdd hefyd ar gael. Cewch wybod rhagor am sut gall fideo-gynadledda eich helpu chi yma.
Mae gwasanaethau fideo-gynadledda pen bwrdd ar gael hefyd drwy wasanaeth Skype.
Gellir defnyddio cyfleusterau cynadledda dros y ffôn hefyd. Cewch wybod rhagor yn:www.cardiff.ac.uk/insrv/it/comms/telephones/teleconference.html
Argraffu Mwy Cynaliadwy
Mae argraffu'n faes lle gall pawb, bron â bod, wneud gwahaniaeth i effaith amgylcheddol y Brifysgol. Mae gwe-dudalen newydd, gydag awgrymiadau ar sut i argraffu'n fwy cynaliadwy ar gael bellach ar wefan y Gwasanaethau Gwybodaeth, ynghyd â llawer o awgrymiadau eraill ar gyfer gweithio mwy cynaliadwy. At hynny, cafodd Dyfeisiadau Amlswyddogaethol (MFDs - argraffwyr a llungopiwyr wedi'u cyfuno) eu gosod yn y llyfrgelloedd dros yr haf. Mae'r MFDs hyn wedi'u rhagosod i argraffu pob ochr y dudalen er mwyn helpu i leihau'r papur sy'n cael ei ddefnyddio mewn gweithgareddau argraffu o ddydd i ddydd, ond gallan nhw argraffu un ochr y dudalen os oes angen. Cewch ddarllen rhagor o awgrymiadau am argraffu mwy cynaliadwy ar:
www.cardiff.ac.uk/insrv/aboutus/sustainability/hintsandtips/printing