Modiwl newydd newyddiaduraeth Cymraeg Prifysgol Caerdydd yn herio 'newyddion ffug'
2 Chwefror 2017
Mae modiwl Cymraeg unigryw newydd, 'Cymru: Y Senedd, y Straeon a'r Spin', yn rhedeg am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd ers mis Chwefror 2017.
Cynlluniwyd y modiwl dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dyma ffrwyth llafur partneriaeth rhwng Sian Morgan Lloyd, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd ac Iwan Williams, Darlithydd y Coleg yn Ysgol y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe.
Amcan y modiwl, sydd ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg y ddwy Brifysgol, yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r berthynas bwysig sy’n bodoli rhwng gwleidyddion, newyddiadurwyr a'r diwydiant cyfathrebu yng Nghymru. Yn ogystal, bydd yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymgyfarwyddo gyda thirwedd gyfryngol y Gymru ddatganoledig; yr heriau o ran plwraliaeth newyddiadurol, a’r modd y mae’r agenda newyddion yn cael ei llywio gan wleidyddion, lobïwyr ac ymarferwyr cysylltiadau cyhoeddus.
Bydd y modiwl yn cael ei astudio gan fyfyrwyr BA Cymraeg a Newyddiaduraeth y flwyddyn gyntaf, Bydd y modiwl hefyd ar gael i fyfyrwyr israddedig yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol sy’n awyddus i barhau astudio a dysgu yn Gymraeg.
Herio 'newyddion ffug'
Dywedodd Sian Morgan Lloyd: “Mae pobl ifainc wedi hen arfer derbyn eu newyddion drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, fel canlyniad mae eu hagenda newyddion yn cael ei guradu nid gan olygyddion newyddion, ond gan algoryddmau sydd wedi eu creu yn benodol i geisio annog pobl i ‘hoffi’ ac i rannu digwyddiadau sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Gyda chymaint o newyddion ‘ffug’ yn cael eu dosbarthu a’i ddarllen ar hyn o bryd mae angen sicrhau bod myfyrwyr yn gweld tu hwnt i’r penawdau cynhyrfus ac yn datblygu sgiliau craidd i’r diwydiant newyddion heddiw.”
Ychwanegodd Iwan Williams: “Mae’r mwyafrif o bobl yng Nghymru yn derbyn eu newyddion o ar draws y ffin; newyddion sydd, yn aml, a wnelo dim gyda realiti bywyd na dinasyddiaeth yng Nghymru. Y syniad wrth wraidd y modiwl hwn yw arfogi myfyrwyr gyda dealltwriaeth ddofn am wleidyddiaeth yng Nghymru, yn ogystal â’r heriau sydd yn wynebu newyddiadurwyr wrth geisio sicrhau ein bod ni fel Cymry’n ymwybodol o’r hyn sydd yn digwydd ar lawr gwlad ac yn ein cymunedau. Wedi’r cyfan, y myfyrwyr hyn yw newyddiadurwyr, cyfathrebwyr a gwleidyddion y dyfodol.”
Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd Iaith Gymraeg ar gael ar wefan yr Ysgol neu drwy ddilyn @Jomeccymraeg ar Twitter.