Trin problemau anadlu mewn plant cynamserol
1 Chwefror 2017
![Nurse treating child](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/559795/Nurse-treating-child.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae arbenigwyr iechyd plant Prifysgol Caerdydd yn galw eto am deuluoedd yng Nghymru i gymryd rhan mewn astudiaeth flaenllaw arall i wella iechyd plant a aned yn gynnar.
Yn yr astudiaeth fwyaf o blant a aned cyn amser yn y byd, mae’r tîm o’r Ysgol Feddygaeth eisoes wedi casglu gwybodaeth o 7000 o blant i ymchwilio i ganlyniadau anadlu hirdymor mewn babanod o aned yn gynnar o’u cymharu â’r rhai a aned ar amser.
Gyda £1.36m o gyllid o’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), maent bellach yn bwriadu ategu’r ymchwil hon drwy ymweld â 1000 o blant yn eu cartref i ddeall yn well pam fod plant a aned yn gynnar yn datblygu problemau anadlu. Caiff y rhai â phroblemau anadlu sylweddol wahoddiad i ymuno â threial triniaeth i nodi’r driniaeth orau ar gyfer problemau anadlu ymhlith plant a aned yn gynnar.
Dywedodd yr Athro Sailesh Kotecha, sy’n arwain yr ymchwil: “O’r ymateb rhagorol a gawsom gan dros 7000 o blant yng Nghymru, rydym wedi dysgu bod plant a aned cyn amser yn cael llawer mwy o symptomau anadlol na’r rhai a aned ar amser. Ond nid yw’n glir pam fod hyn yn digwydd na beth yw’r driniaeth orau ar ei gyfer..."
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/151301/Prof-Sailesh-Kotecha.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
"Gyda’r astudiaeth newydd hon, bydd yn ceisio dysgu beth yw’r driniaeth orau i blant a aned yn gynnar sydd â symptomau ysgyfaint. I wneud hyn, rydym angen i’r teuluoedd a gymerodd ran yn flaenorol ein helpu unwaith eto.”
Mae 10% o enedigaethau yn y byd yn rhai cynamserol, a chaiff dros 50,000 o fabanod eu geni'n gynnar yn y DU bob blwyddyn. Er bod nifer gynyddol o’r babanod hynny’n goroesi i blentyndod a thu hwnt, mae’r ddealltwriaeth am ganlyniadau genedigaeth gynnar yn gyfyngedig. At hynny, nid yw’n eglur a yw therapi cyffuriau a anadlir yn effeithiol ymhlith plant a aned yn gynnar sydd â phroblemau anadlu. Bydd yr ymchwil newydd yn bwrw rhywfaint o olau ar y rhesymau sylfaenol sy’n arwain at symptomau anadlol a bydd hefyd yn dysgu beth yw’r driniaeth orau i’r plant hyn.
Ychwanegodd yr Athro Kotecha: “Hoffem ddiolch yn fawr i’r holl deuluoedd sydd wedi cymryd rhan hyd yma a gobeithio y byddant yn cymryd rhan eto dros y misoedd nesaf. Gyda chymorth y teuluoedd, gallwn ddeall yn well pam fod plant a aned yn gynnar yn dioddef o broblemau anadlu gan helpu i ddatblygu therapïau cyffuriau wedi’u targedu a allai wella ansawdd eu bywyd.”
Bydd y tîm yn gwahodd teuluoedd sydd wedi cymryd rhan yn y treial yn flaenorol dros y flwyddyn nesaf, fel y gall nyrsys ymchwil ymweld â’r plant yn eu cartref. Caiff y rhai sydd â symptomau anadlol sylweddol wahoddiad i ymuno â threial triniaeth i werthuso’r driniaeth anadlydd orau y dylid ei defnyddio gyda phlant a aned yn gynnar sydd â chlefyd anadlol.
Os hoffai teuluoedd gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’i tîm ymchwil ar 029 20 74 4187 neu e-bostiwch rhino@caerdydd.ac.uk neu ewch i http://rhino-health.org.