‘Prifysgol sgwlio orau Prydain Fawr’
26 Hydref 2012
![Four members of Cardiff University rowing quad smiling and waving, wearing their medals](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/79064/rowing-team.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Erbyn hyn Caerdydd yw "prifysgol sgwlio orau Prydain Fawr" yn ôl prif hyfforddwr Rhwyfo Cymru yn dilyn perfformiadau eithriadol gan griwiau ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Jiwbilî Ddiemwnt.
Rhoddodd y Pencampwriaethau, a ddigwyddodd dros ddeuddydd (Dydd Sadwrn 20 a Dydd Sul 21 Hydref 2012) ar gwrs y Gemau Olympaidd yn Eton Dorney, gyfle i rwyfwyr gorau Prydain gystadlu gyda medalyddion y Gemau Olympaidd.
Trechodd pedwarawd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, sef Robbie Massey, Josh Bugajski, Jack Thomas a Tom Barras, gystadleuwyt o safon fyd-eang gan gynnwys clybiau rhwyfo Leander, Agecroft, Imperial a Llundain i gipio'r fedal arian yn y gystadleuaeth 2000m.
Hefyd, gorffennodd Robbie a Josh yn bedwerydd yn y gystadleuaeth sgwlio dwbl, yn cystadlu mewn maes a oedd yn cynnwys enillwyr Regata Frenhinol Henley, Cystadleuwyr Prydain Fawr o dan 23 oed a medalyddion rhyngwladol.
Dywedodd Ian Shore, Hyfforddwr Datblygiad Perfformiad Uchel Cenedlaethol Cymru: "Rwyf wrth fy modd yn gallu adrodd ynghylch sut berfformiodd sgwad Cymru, a oedd yn cynrychioli eu clybiau a'u prifysgolion, yn y regata hon. Mewn maes o safon fyd-eang wirioneddol, gwnaeth eu perfformiadau helpu i sefydlu rhaglen Rhwyfo Cymru yn un o'r rhaglenni gorau ym Mhrydain Fawr. O safbwynt Prifysgol Caerdydd, ar sail y canlyniadau hyn, dyma brifysgol sgwlio orau Prydain Fawr."