Ffair Elusennau
29 Hydref 2012
Ydych chi erioed wedi ystyried adeiladu wal gerrig sych? Efallai yr hoffech chi helpu i godi arian ar gyfer prosiectau fforestydd neu ddarganfod y llwybrau gorau i gyrraedd y campws ac i gerdded o'i gwmpas.
Fel rhan o Wythnos Cynaliadwyedd y Brifysgol gall staff a myfyrwyr ddysgu mwy am gyfleoedd i wirfoddoli yng Nghymru a thu hwnt fel rhan o ffair elusennau sydd i'w chynnal ddydd Iau 1 Tachwedd 2012.
Cynhelir y ffair yn Oriel VJ yn y Prif Adeilad rhwng 11am a 3pm, a bydd yn cynnwys sefydliadau fel RSPB, Maint Cymru a Banc Bwyd Caerdydd a fydd â gwybodaeth am eu prosiectau diweddaraf a chyfleoedd gwirfoddoli.
Bydd stondin gan dîm Adran Gwasanaethau Campws y Brifysgol yn y digwyddiad a byddant yno i hyrwyddo cynllun teithio newydd y Brifysgol. Mae gan y cynllun fanylion am y ffyrdd gorau i deithio i'r Brifysgol ac oddi yno, yn ogystal â mapiau cerdded yn dangos y llwybrau cerdded cyflymaf a hawsaf o amgylch y campws. Bydd y tîm yn dosbarthu mesuryddion pedometer yn rhad ac am ddim i'r 300 ymwelydd cyntaf i'w stondin fel y gall staff a myfyrwyr gadw llygad ar y pellter maent wedi ei gerdded.
Bydd y grŵp amgylcheddol o fri, Gwirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd, yn y Ffair hefyd gyda'r manylion am eu gwaith cymunedol sy'n cynnwys clirio llwybrau troed, plannu coed ac adeiladu waliau cerrig sych. Enillodd y grŵp Wobr Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru am gynllunio'r llyn yn Fferm Fforest.
Nid oes angen bwcio lle yn y Ffair. Gall staff a myfyrwyr alw heibio unrhyw adeg rhwng 11am a 3pm ddydd Iau 1 Tachwedd, i weld yr hyn sydd yno.