Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr gynaliadwyedd ar gyfer Adeilad Hadyn Ellis

12 Gorffennaf 2012

Hadyn Ellis award

Mae Adeilad Hadyn Ellis newydd y Brifysgol, sy'n cael ei adeiladu ym Mharc y Maendy, wedi ennill gwobr bwysig am ei gynaliadwyedd.

Daeth yr Adeilad, a fydd yn gartref i waith ymchwil Prifysgol o'r radd flaenaf, yn fuddugol yn y categori Addysg Uwch yng Ngwobrau Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeilad (BREEAM) Cymru 2012.

Cyflwynwyd y wobr gan John Griffiths AC, Gweinidog Cynulliad Cymru dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, i Gyfarwyddwr Ystadau'r Brifysgol, Stephen Duddridge, yng Nghinio'r Gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd a gynhaliwyd yn Stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd.

Bydd Adeilad Hadyn Ellis, a enwyd er cof am Is-Ganghellor diweddar y Brifysgol, yn gartref i Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd blaenllaw y Brifysgol a'r Sefydliadau Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl. Bydd labordai ar gael ar gyfer Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig. Bydd yr adeilad hefyd yn cynnwys Coleg Graddedigion y Brifysgol, theatr gyda 150 o seddi a man arddangos cyhoeddus.

Mae contractwyr arweiniol yr adeilad, BAM Construction, a'r penseiri Nightingale Associates, yn cyflawni gwaith i'r safonau cynaliadwyedd uchaf, o ran dyluniad yr Adeilad a'r dulliau adeiladu. Bydd yr Adeilad gorffenedig yn manteisio i'r eithaf ar ynni naturiol i'w wresogi a'i oleuo.

Mae'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu yn rhoi Gwobrau BREEAM i'r adeiladau â'r sgôr uchaf y graddiwyd eu bod yn "rhagorol" o ran eu hymagwedd gyffredinol at yr amgylchedd.

Meddai Mr Duddridge: "Pan ddechreuom ni gynllunio Adeilad Hadyn Ellis gyntaf, fe wnaethom ni osod targed i'n hunain o gyflawni rhagoriaeth BREEAM o ran cynaliadwyedd. Rwy'n falch iawn ein bod ni, gyda'n partneriaid BAM a Nightingale Associates, nid yn unig wedi cyflawni'r safon hon ond hefyd wedi ein cydnabod gyda'r wobr genedlaethol hon. Bydd Adeilad Hadyn Ellis yn adeilad y gall Cymru ymfalchïo ynddo nid yn unig am ei waith ymchwil o ansawdd da ond hefyd am ei safonau amgylcheddol."

Gwyliwch y cynnydd wrth godi Adeilad Hadyn Ellis trwy'r gwe-gamerahttp://hadynbuild.cf.ac.uk/view/index.shtml

Rhannu’r stori hon