Cymraeg i Bawb yn cynnal cwrs dwys
31 Ionawr 2017
Cynhaliwyd Cwrs Dwys i ddechreuwyr, fel rhan o’r rhaglen Cymraeg i Bawb, rhwng 16 a 20 Ionawr 2017.
Cwrs gwirfoddol dros gyfnod o bum niwrnod oedd hwn, wedi ei gynnal yn Adeilad John Percival gan diwtoriaid Cymraeg i Bawb. Croesawyd nifer o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o ystod eang o gyrsiau gradd, gan gynnwys Pensaernïaeth, Cyfrifiadureg, Cymdeithaseg, Cerddoriaeth a Chyfathrebu.
Yn ystod yr wythnos derbyniodd y myfyrwyr weithdai iaith amrywiol a fyddai’n gosod sylfaen gadarn iddynt allu dechrau defnyddio’r iaith yn gymdeithasol ac yn broffesiynol. Cawsant gyfle hefyd i ymweld â’r Senedd ym Mae Caerdydd i ddysgu am yr adeilad a gwleidyddiaeth yng Nghymru a sut y defnyddir y Gymraeg yno.
Cafodd Netta Chamachau, myfyrwraig ôl-raddedig mewn Sosioleg wythnos dda iawn ar y cwrs a dywedodd iddi fwynhau’r cyfle i gwrdd â myfyrwyr newydd o wahanol ysgolion ac “roedd cael cyfle i ddysgu rhai o’r patrymau rwy’n eu gweld o’m cwmpas yng Nghaerdydd yn wych! Mwynheais i’r cwrs yn fawr – yn enwedig y gweithgareddau amrywiol.”
Mae Polly Cunana yn fyfyrwraig rhyngwladol ôl raddedig a fanteisiodd ar y cyfle i ddysgu’r Gymraeg am y tro cyntaf. Meddai: “Mewn cyfnod byr iawn rwyf wedi dod i garu Caerdydd ac roedd y cwrs dwys yn gyfle gwych imi ddysgu’r iaith a dod yn rhan o’r diwylliant Cymraeg yma yn y brifddinas. Roedd y tiwtoriaid i gyd yn llawn brwdfrydedd ac yn ymroi’n llawn i sicrhau ein bod ni i gyd yn elwa o’r profiad o ddysgu’r Gymraeg.”
Dywedodd Dr Angharad Naylor, Rheolwr Cymraeg i Bawb: “Mae Cymraeg i Bawb yn mynd o nerth i nerth ac mae ein darpariaeth wedi datblygu’n sylweddol ers inni lansio’r rhaglen yn 2015.
“Roedd hi’n braf cwrdd â chymaint o fyfyrwyr brwdfrydig ar y cwrs dwys ac i weld pa mor awyddus oedden nhw i ddefnyddio’r patrymau iaith newydd wrth gymdeithasu ymysg ei gilydd a chyda staff Ysgol y Gymraeg. Rydym yn gobeithio cynnal mwy o gyrsiau dwys yn y dyfodol, ochr yn ochr â’r cyrsiau eraill sydd wedi profi’n boblogaidd iawn. Rydym nawr yn edrych ymlaen at ein cyrsiau 9 wythnos a fydd yn dechrau ym mis Chwefror. A bydd rhai o fyfyrwyr y cwrs dwys yn dychwelyd i ddysgu rhagor o Gymraeg ar y lefel nesaf.”
Rhaglen sydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ddysgu’r Gymraeg yn rhad ac am ddim yw Cymraeg i Bawb. Ers lansio’r rhaglen yn haf 2015, mae dros 325 o fyfyrwyr wedi derbyn hyfforddiant ar wahanol lefelau. Gwyliwch y fideo i weld criw 2015/16 yn trafod eu profiadau.