Ewch i’r prif gynnwys

Gwella iechyd meddwl dioddefwyr trais

11 Gorffennaf 2012

Violence

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cyhoeddi canllaw newydd a ddatblygwyd gan arbenigwyr yng Nghaerdydd i wella'r canlyniadau iechyd meddwl ar gyfer pobl yr effeithiwyd arnynt gan drais.

Mae pobl sy'n cael eu hanafu trwy drais corfforol neu'n cael eu heffeithio ganddo, gan gynnwys trais rhywiol, mewn perygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl fel anhwylder straen wedi trawma, pryder, iselder a phroblemau camddefnyddio sylweddau. Fodd bynnag, nid yw gwasanaethau i helpu'r bobl hyn wedi eu datblygu'n ddigonol.

Cyd-awduron y canllaw, Managing the impact of violence on mental health, including among witnesses and those affected by homicide, yw'r Athro Jonathan Shepherd, y Grŵp Ymchwil ar Drais a Chymdeithas a'r Ysgol Ddeintyddiaeth, a'r Athro Jonathan Bisson, yr Ysgol Feddygaeth. Gwnaethant hwy a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion weithio mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, y Coleg Meddygaeth Frys a'r elusen genedlaethol Cymorth i Ddioddefwyr.

Meddai'r Athro Jonathan Shepherd, Athro Llawfeddygaeth y Geg, y Genau a'r Wyneb: "Rwyf wedi bod yn trin pobl a anafwyd gan drais ers sawl blwyddyn, ac yn argyhoeddedig bod y problemau iechyd meddwl sy'n deillio o hynny yn aml yn fwy difrifol ac yn para'n hirach na'u hanafiadau corfforol. Mae tua 300,000 o ddioddefwyr trais yn cael eu trin mewn adrannau brys yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn a bydd tua 40 y cant o'r rhain yn datblygu problemau iechyd meddwl. Ond er bod effeithiau trais ar iechyd meddwl yn gyffredin, maent hefyd yn cael eu hesgeuluso yn aml. Gobeithiwn y bydd y canllaw hwn yn helpu i sicrhau bod pobl sy'n dioddef trais yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt."

Mae'r canllaw newydd yn cynnwys llwybr gofal fesul cam i ddangos sut y gall adrannau brys, meddygon teulu a'r system cyfiawnder troseddol gydweithio'n well i nodi'r bobl hynny sy'n dangos arwyddion o salwch meddwl a rhoi gwybodaeth iddynt am wasanaethau cymorth perthnasol.

Mae'r canllaw yn argymell:

· Y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n trin y rhai hynny yr effeithir arnynt gan drais, a'r gwasanaethau iechyd y maent yn gweithio ynddynt, gael eu cydnabod fel eiriolwyr pwysig dros iechyd a lles dioddefwyr.

· Y dylai meddygon sy'n gweithio mewn lleoliadau brys nodi cleifion sy'n dangos arwyddion o broblemau iechyd meddwl o ganlyniad i drais a'u hatgyfeirio i wasanaethau cymorth yn y trydydd sector neu i'w meddygon teulu, yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr achos.

· Y dylai'r gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr a staff cymwys eraill o'r sector statudol a'r trydydd sector atgyfeirio dioddefwyr ac eraill yr effeithir arnynt gan drais sy'n dangos arwyddion o salwch meddwl i weithwyr iechyd proffesiynol yn y sector gofal sylfaenol ar gyfer asesiad ychwanegol.

Meddai Javed Khan, Prif Weithredwr Cymorth i Ddioddefwyr: "Mae ein gwirfoddolwyr hyfforddedig wedi bod yn helpu dioddefwyr i ymdopi ag effeithiau emosiynol a seicolegol troseddau o bob math am bron i 40 mlynedd. Rydym felly'n gwbl ymwybodol o'r effaith seicolegol y gall dioddef trosedd dreisgar ei chael. Mae gan Gymorth i Ddioddefwyr systemau ar gyfer nodi ac atgyfeirio dioddefwyr i wasanaethau iechyd meddwl, pan fo angen. Fodd bynnag, byddai'n dda gweld mwy o gydweithio rhwng yr holl asiantaethau ac unigolion sy'n gysylltiedig er mwyn sicrhau bod mwy o ddioddefwyr â chyflyrau sy'n ymwneud â thrawma a chyflyrau iechyd meddwl yn cael eu nodi a'u hatgyfeirio'n briodol. Byddai hyn o fudd i bawb – yn enwedig dioddefwyr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion a phartïon eraill i sicrhau bod mwy o ddioddefwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt."

Rhannu’r stori hon