Teithiau cerdded amser cinio
30 Hydref 2012
Mae grŵp cerdded amser cinio wythnosol newydd yn cael ei lansio gan Chwaraeon Prifysgol Caerdydd fel rhan o Wythnos Gynaladwyedd 2012.
Ddydd Mercher 31 Hydref, gall staff ymuno â'r daith agoriadol – taith hamddenol o amgylch campws y Brifysgol, a fydd yn para am awr. Bydd y teithiau yn rhoi cyfle i staff ymweld â mannau yn y Brifysgol na fydd yn gyfarwydd iddyn nhw, o bosibl, ynghyd â chyfle i ymarfer corff yn hamddenol.
Bydd y daith yn dechrau am 12.30pm o Ganolfan Ffitrwydd a Sboncen Prifysgol Caerdydd ar Senghennydd Road (wrth ymyl Undeb y Myfyrwyr), gan oedi'n achlysurol ar hyd y ffordd er mwyn i aelodau eraill o staff allu ymuno â'r daith. Dylai staff sy'n dymuno ymuno â'r daith fod yn y mannau ymuno dynodedig ar yr adegau a nodir isod.
I wneud y daith yn brofiad mwy cyfforddus, anogir staff i wisgo esgidiau a dillad addas ar gyfer cerdded ac amgylchiadau'r tywydd y diwrnod hwnnw.
Bydd llwybrau gwahanol, gan gynnwys rhai hirach, yn dilyn wrth i'r grŵp ddatblygu.
Mannau ymuno ac amseroedd
Mannau ymuno ac amseroedd, 31 Hydref 2012
12.30pm Canolfan Ffitrwydd a Sboncen Prifysgol Caerdydd
Cwrdd yn Nerbynfa'r Ganolfan
12.35pm Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd
Ymuno y tu allan i'r fynedfa
12.45pm Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd
Ymuno ger giatiau'r prif faes parcio
12.55pm Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd
Ymuno y tu allan i fynedfa Adeilad y Gyfraith
1.00pm Canolfan Ddiogelwch Prifysgol Caerdydd
Ymuno y tu allan i'r fynedfa
1.05pm Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Ymuno y tu allan i fynedfa Plas y Parc
1.10pm Adeilad y Dyniaethau Prifysgol Caerdydd
Ymuno y tu allan i'r brif fynedfa
1.15pm Adeilad Julian Hodge Prifysgol Caerdydd
Ymuno y tu allan i'r brif fynedfa
1.25pm Tafarn Woodville
Ymuno y tu allan i'r brif fynedfa
1.30pm Canolfan Ffitrwydd a Sboncen Prifysgol Caerdydd
Ymadael ger y fynedfa
1.35pm Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd
Ymadael y tu allan i'r fynedfa
1.45pm Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd
Ymadael ger giatiau'r prif faes parcio
1.55pm Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd
Ymadael y tu allan i fynedfa Adeilad y Gyfraith
2.00pm Canolfan Ddiogelwch Prifysgol Caerdydd
Ymadael y tu allan i'r fynedfa
2.05pm Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Ymadael y tu allan i fynedfa Plas y Parc
2.10pm Adeilad y Dyniaethau Prifysgol Caerdydd
Ymadael y tu allan i'r brif fynedfa
2.15pm Adeilad Julian Hodge Prifysgol Caerdydd
Ymadael y tu allan i'r brif fynedfa
2.25pm Tafarn Woodville
Ymadael y tu allan i'r brif fynedfa
2.30pm Canolfan Ffitrwydd a Sboncen Prifysgol Caerdydd