Lansio Canolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru
10 Gorffennaf 2012
Mae canolfan hyfforddiant a arweinir gan y Brifysgol ar gyfer datblygu gwyddonwyr cymdeithasol y dyfodol wedi ei lansio'n swyddogol gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews AC.
Dathlwyd creu Canolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n paratoi myfyrwyr PhD ar gyfer gyrfaoedd ymchwilio i rai o'r heriau allweddol sy'n wynebu ein heconomi a'n cymdeithas, mewn digwyddiad yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Mae'r Ganolfan, a sefydlwyd yn 2011, yn helpu i ddatblygu'r gallu i gynnal ymchwil yng Nghymru ar draws ystod o ddisgyblaethau'r gwyddorau cymdeithasol gan gynnwys astudiaethau busnes, troseddeg, economeg, addysg, daearyddiaeth ddynol, astudiaethau rhyngwladol, ieithyddiaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg, polisi cymdeithasol a chymdeithaseg.
Mae'r Ganolfan, a ariennir gan yr ESRC, yn gweithredu fel consortiwm rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe.Caerdydd yw'r sefydliad arweiniol. Mae Canolfan Hyfforddiant Doethurol Cymru yn un o 21 ledled y DU ac mae'r ESRC o'r farn ei bod yn darparu darpariaeth hyfforddiant wirioneddol ragorol ar gyfer ôl-raddedigion, sy'n adlewyrchu enw prifysgolion Cymru am ymchwil o ansawdd uchel ym maes y gwyddorau cymdeithasol.
Nod y Ganolfan yw annog cydweithio ar waith ymchwil ar draws disgyblaethau a sefydliadau yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Bydd hefyd yn datblygu cysylltiadau gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector er mwyn hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth: mae cysylltiadau prfesennol yn cynnwys Llywodraeth Cymru; Cyngor Cefn Gwlad Cymru; Shell Global Solutions; Y Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol; Cymdeithas Addysg y Gweithwyr; CBAC; Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan; y Gwasanaeth Prawf a'r Cynghorau Ymchwil.
Hyd yn hyn mae'r Ganolfan wedi creu dros 90 o ysgoloriaethau ymchwil a ariennir yn llawn. Dyfarnwyd grant yr ESRC iddi ar gyfer hyd at werth 33 o ysgoloriaethau ymchwil newydd y flwyddyn am bum mlynedd, ond y nod yw cynyddu nifer yr ysgoloriaethau ymchwil yng Nghymru er mwyn gallu cynnal dros 250 yn ystod y cyfnod.
Yn ystod y lansiad a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd, dywedodd Leighton Andrews AC:
"Rydym yn awyddus i weld y gwyddorau cymdeithasol yn datblygu yng Nghymru ac mae dyfarniad Canolfan Hyfforddiant Doethurol yr ESRC yn cydnabod y gallwn gynnig yr hyfforddiant gorau ar ymchwil i'r gwyddorau cymdeithasol yn unman yn y DU."
Dywedodd yr Is-Ganghellor, Dr David Grant: "Mae Cymru'n cynnwys cyfran sylweddol o'r gwyddorau cymdeithasol gorau oll, a'r hyfforddiant gorau oll ar ymchwil i'r gwyddorau cymdeithasol yn y DU. Rydym yn falch iawn o fod y sefydliad arweiniol mewn menter sy'n adeiladu ar ansawdd uchel yr ymchwil i'r gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru, ac yn addo i'w ddatblygu ymhellach, ac yn enwedig i fynd i'r afael â'r anghenion sy'n codi yn y cyd-destun ôl-ddatganoli."
Esboniodd yr Athro David James, Cyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, a oedd hefyd yn siarad yn y lansiad sut yr oedd y lansiad yn tanlinellu pwysigrwydd Canolfan Hyffordiant Doethurol Cymru yr ESRC i ddyfodol y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU:
"Mae'r gwyddorau cymdeithasol yn dod yn gynyddol arwyddocaol wrth i ni ymdrechu i fynd i'r afael ag ansicrwydd ac anghydraddoldebau mawr ein cyfnod. Mae'n hanfodol bod gan y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol ehangder yn ogystal â dyfnder, a'u bod yn barod i ymgysylltu ag ystod o gynulleidfaoedd a buddiannau ar yr un pryd â bod yn feddylwyr annibynnol a beirniadol sy'n deall ac yn derbyn eu cyfrifoldebau mewn democratiaeth. Fel Canolfan Hyfforddiant Doethurol, mae gennym ran bwysig i'w chwarae i wireddu hynny".
Mae meysydd pwnc eraill a fydd yn denu'r ysgoloriaethau ymchwil a ariennir yn llawn yn cynnwys daearyddiaeth ddynol, astudiaethau rheoli a busnes, gwyddor gwleidyddol ac astudiaethau rhyngwladol, astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg , dwyieithrwydd, astudiaethau empirig yn y gyfraith, astudiaethau ardal sy'n seiliedig ar iaith, cymdeithaseg, a gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol.