Cerdyn Nadolig y Brifysgol
5 Tachwedd 2012
Mae cerdyn Nadolig y Brifysgol bellach ar werth.
Mae'r cardiau'n costio 40c yr un ac maent ar gael ym mhwyntiau gwerthu Gwasanaethau Graffig ledled y campysau ym Mharc Cathays a Pharc y Mynydd Bychan.
Tynnwyd delwedd eleni yn yr Oriel Awyr Agored, ac fe'i trefnwyd gydag Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yn taflunio delweddau ar y Prif Adeilad. Hefyd gellir edrych ar y cerdyn ar www.ecards.cardiff.ac.uk/christmas.html lle mae dewis ehangach o eGardiau Nadoligaidd ar gael yn ogystal.
Caiff rhodd o 10c ar gyfer pob cerdyn a werthir ei rhoi tuag at gefnogi myfyrwyr sydd mewn caledi ariannol yn y Brifysgol trwy Gronfa Caerdydd. Mae Cronfa Caerdydd yn rhoi cymorth drwy helpu cannoedd o fyfyrwyr sydd ag anghenion ariannol i ariannu nifer o brosiectau academaidd ac allgyrsiol ledled y campws. Mae'n cefnogi gweithgareddau'r Brifysgol mewn pedwar maes bras: Rhoddion anghyfyngedig, ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr, Cyfleusterau Chwaraeon ac Undeb y Myfyrwyr a Chyfleusterau Llyfrgelloedd a'r Campws.
Er mwyn archebu pecynnau o ddeg cerdyn Nadolig am £4.00 y pecyn, cysylltwch â Diane Gollop, Gwasanaethau Graffig ar estyniad graphicsl@cardiff.ac.uk a/neu drefnu i archeb Oracle gael ei chodi i INSRV Graphics ASSL.
Y dyddiad olaf a argymhellir ar gyfer postio gan y Post Brenhinol yw dydd Iau 20 Rhagfyr ar gyfer post Dosbarth Cyntaf o fewn y DU (mae dyddiadau rhyngwladol yn amrywio). Lle bydd trosbrintio yn ofynnol ar gyfer postio awyr bost Tramor ac ar Dir Mawr y DU, y dyddiad cau ar gyfer hyn yw Dydd Llun 12 Tachwedd. Anfonwch eich testun drwy neges e-bost at print@caerdydd.ac.uk a threfnwch eich archeb drwy Oracle i INSRV-PRINTING. Rhoddir dyfynbrisiau ar gais os ffoniwch 029 2033 5350 neu anfonwch neges e-bost at print@caerdydd.ac.uk .
Cafodd cardiau Nadolig y Brifysgol eu hargraffu ar bapur 100% wedi'i ailgylchu yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i gynaliadwyedd.