Lleoedd Cynaliadwy
5 Tachwedd 2012
Arweiniodd y darlledwr, awdur, comedïwr a hyrwyddwr amgylcheddol, Griff Rhys Jones, ddathliad o waith Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy blaenllaw Caerdydd yn ystod Wythnos Cynaliadwyedd 2012 y Brifysgol.
Anerchodd Griff Rhys Jones, a ddaeth yn noddwr y Sefydliad yn 2011, westeion mewn digwyddiad i nodi ail ben-blwydd y Sefydliad Ymchwil, ynghyd â'r Is-ganghellor, yr Athro Colin Riordan a Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru.
Wrth siarad am ei rôl fel noddwr, dywedodd Griff: "Rwy'n falch iawn bod yng Nghaerdydd yn cefnogi'r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy. Mae llawer o faterion a hyd yn oed polisïau'r llywodraeth yn dibynnu ar y syniad o gynaliadwyedd. Mae angen i ni gyd fod yn ymwybodol o'r hyn y mae hyn yn ei olygu i bob diwydiant, busnes a disgyblaeth."
Daeth y digwyddiad ag academyddion y Brifysgol a ffigurau blaenllaw eraill sy'n gysylltiedig â gwaith cynaliadwyedd yng Nghymru a'r DU at ei gilydd, ac amlygodd waith arloesol y Sefydliad ym maes gwyddoniaeth cynaliadwyedd.
Ers ei sefydlu, mae'r Sefydliad wedi cael effaith sylweddol ar ymchwil ar greu lleoliadau cynaliadwy, gan greu syniadau newydd ynghylch rheoli ac anghenion polisi ar gyfer atebion integredig i fyw'n gynaliadwy.
Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Mae'r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy yn enghraifft wych o sut mae ein hymchwil yn helpu i greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cymunedau ledled y byd. Mae enghreifftiau eraill o'r fath ar draws y Brifysgol.
"Ochr yn ochr â'n hymchwil, mae staff a myfyrwyr yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cynhyrchu llai o wastraff a'u bod mor effeithlon â phosibl.
"Mae'r hyn y mae Caerdydd wedi'i gyflawni hyd yn hyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ond fel Prifysgol, mae angen i ni gymryd y cam nesaf. Gall Caerdydd fod yn un o'r prifysgolion gwyrddaf yn y DU, un sy'n gosod y safon ar gyfer sefydliadau eraill – ni ddylem fod ofn meddwl yn fwy."