Lleddfu poen cronig
9 Gorffennaf 2012
Mae meddygon teulu ac ymarferwyr gofal sylfaenol yn cael cynnig cyfle i ennill sgiliau newydd i'w galluogi i nodi a chynorthwyo cleifion mewn poen cronig yn well, diolch i hwb ariannol o £250,000 gan y Brifysgol.
Mae arbenigwyr ar boen cronig o'r Ysgol Feddygaeth wedi uno â NAPP pharmaceuticals i gynnig cwrs Sylfaen e-ddysgu 12 wythnos o hyd. Diben y cwrs yw darparu sgiliau a thechnegau newydd i reoli'n well y nifer cynyddol o gleifion sy'n gofyn am gymorth gyda phoen cronig.
Amcangyfrifir bod 7.8 miliwn o bobl yn y DU yn byw â phoen cronig, ac o'r rheiny, mae gan 1.6 miliwn boen cefn cronig. Bydd 49% yn dioddef iselder a bydd 25% yn colli eu swyddi. Mae 16% yn teimlo'n hunanladdol gan fod y poen mor wael.
Fel y porth i'r GIG, meddygon teulu a'r tîm gofal sylfaenol yw'r man galw cyntaf ar gyfer nifer o gleifion sy'n dioddef poen, ac mae'r cwrs e-ddysgu newydd wedi cael ei gynllunio i roi'r arbenigedd rheoli poen a'r technegau cyfathrebu diweddaraf i staff gofal sylfaenol, fel y gellir trin mwy o gleifion mewn lleoliadau cymunedol yn hytrach na'u cyfeirio at ofal eilaidd.
Dywedodd Ann Taylor, Darlithydd mewn Addysg ac Ymchwil Poen yn yr Adran Anaestheteg, Gofal Dwys a Meddygaeth Poen, yr Ysgol Feddygaeth, fod rheoli poen wedi bod yn 'wasanaeth Sinderela', ond mae'n dweud bod y cynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef poen yn golygu ei fod yn araf cael ei gydnabod fel disgyblaeth ynddo'i hun, yn hytrach nag ychwanegiad.
"Mae cydnabod poen unigolyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd ei fywyd," meddai Ann, a weithiodd fel academydd ym maes rheoli poen am dros 20 mlynedd.
"Rydym eisiau addysgu clinigwyr ynglŷn â phwysigrwydd ymyrraeth gynnar a sgrinio ar gyfer poen problemus a phoen a allai fod yn broblemus, yn ogystal â thriniaeth gynnar sydd nid yn unig yn gwella ansawdd bywyd cleifion, ond hefyd yn lleihau'r baich ar y GIG a chymdeithas yn y tymor hir.
"Mae cleifion sy'n dioddef poen difrifol ddwywaith yn fwy tebygol o farw o glefyd y galon a ddwywaith a hanner yn fwy tebygol o farw o glefyd anadlol. O ganlyniad, mae'n rhaid chwalu'r hen chwedl bod neb yn marw o boen felly nid yw'n bwysig", meddai.
"Bydd pumed ran o'r cleifion hyn yn rhai sy'n dioddef poen cefn cronig. Er hynny, mae nifer o glinigwyr yn dal i fethu deall yr effaith y mae poen cronig yn ei chael ar fywydau pobl oherwydd nid oes ffordd i'w fesur yn wrthrychol a cheir chwedlau a chamdybiaethau yn ymwneud ag adroddiadau goddrychol o boen. Mae poen yn bwnc sy'n cael ei esgeuluso yn y rhan fwyaf o gwricwla iechyd proffesiynol israddedig, felly ni ymdrinnir ag asesu a rheoli poen yn dda, sy'n arwain at ddiffyg hyder ar ôl cymhwyso."
Mae Adran Anaestheteg, Gofal Dwys a Meddygaeth Poen y Brifysgol wedi derbyn mwy na hanner miliwn o bunnoedd o gymorth gan NAPP pharmaceuticals i gefnogi addysgu rheoli poen ôl-raddedig, ac mae'r arian ychwanegol wedi ei gynllunio i gynorthwyo ehangiad yr adran i ofal sylfaenol.
Bydd yr arian newydd hefyd yn helpu i ddatblygu gwefan yr adranwww.painmanagementcentre.org – adnodd ar-lein rhad ac am ddim i arbenigwyr rheoli poen, sy'n cofrestru 150 o ddefnyddwyr newydd bob dydd.
Mae cynlluniau ar waith i ddatblygu 'pecyn cymorth' a fydd yn darparu dewisiadau triniaeth ar sail tystiolaeth ar gyfer ymarferwyr sydd angen cyngor ynglŷn â'ch cyflyrau penodol, yn ogystal â chyfres o gweminarau dan arweiniad arbenigwyr rheoli poen.
Dywedodd Phil Groom, Rheolwr Materion Cyhoeddus ar gyfer NAPP Pharmaceuticals, bod rheoli poen yn her fawr i'r GIG, a bod y cynnydd parhaus mewn clefydau cronig yn golygu bod angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol.
"Mae ymchwil wedi dangos bod 22% o'r holl ymgynghoriadau gyda meddygon teulu yn ymwneud â phoen cronig, ond bod llai na hanner ohonynt yn hyderus o ran sut i'w drin," meddai. "Gallai mwy o gyflyrau cronig gael eu trin yn y gymuned yn hytrach na'u hatgyfeirio i ysbyty, ond mae angen mwy o addysg. Rydym eisiau gweld mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn derbyn hyfforddiant mewn rheoli poen fel eu bod nhw'n gallu defnyddio'r cyffur cywir ar yr adeg gywir yn y man cywir. Rydym yn credu y bydd mwy o ymwybyddiaeth ynglŷn â phoen cronig a sut i'w reoli'n gywir yn arwain at lai o gamgymeriadau ac yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion."
Mae poen anfalaen cronig (CNMP) yn ymdrin ag amrywiaeth o gyflyrau poenus sy'n effeithio ar bobl yn gorfforol, yn seicolegol ac yn gymdeithasol. Gall y cyflyrau hyn arwain at anabledd a chael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd unigolyn. Mae rheoli'r cyflyrau hyn yn gofyn am gyfraniad gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol.
Mae'r angen cynyddol am wasanaethau i gynorthwyo pobl sy'n dioddef poen cronig yn gosod galw cynyddol ar y GIG a'r system gofal cymdeithasol, yn arbennig mewn gofal eilaidd. Er hynny, mae arwyddion eglur y gellir rheoli'r rhan fwyaf o ffurfiau o CNMP mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae cyflyrau sy'n achosi poen cronig yn amrywio, o gyflyrau cyhyrysgerbydol a niwropathig i gymhlethdodau fasgwlaidd a chymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth, gan gynnwys osteoarthritis ac arthritis gwynegol, fibromyalgia, meigryn, poen yn rhan isaf y cefn, poen yn y gwddf, sglerosis ymledol, poen ar ôl strôc, ac anaf straen ailadroddus.
Mae'r nyrs staff, Anna Morris, wedi graddio'n ddiweddar ar ôl cwblhau'r cwrs sylfaen e-ddysgu ac mae'n gweithio yng nghlinig poen Ysbyty Poole yn Dorset. Dywedodd bod y cwrs wedi'i galluogi i rannu arbenigedd gyda chydweithwyr, gweithio'n well gyda meddygon teulu, ac wedi bod o gryn fudd i'w chleifion ei hun.
"Hwn oedd y tro cyntaf i mi ddilyn cwrs e-ddysgu, ond roedd gweithio ar-lein yn caniatáu i ni rannu ein profiadau, ac os oedd gennym unrhyw broblemau gydag aseiniad, roeddem yn gallu eu trafod gyda myfyrwyr eraill a darlithwyr. Roedd yn dda dysgu am reoli poen o safbwynt academaidd er mwyn dysgu am driniaethau newydd a sut i werthuso'r dystiolaeth yn feirniadol, yn ogystal â dysgu sut mae poen yn effeithio ar unigolyn yn gorfforol a seicolegol. Roeddwn wedyn yn gallu rhannu'r wybodaeth honno ar ôl mynd yn ôl i'r gwaith.
"Yr astudiaeth achos a ddefnyddiais ar gyfer y cwrs oedd un o fy nghleifion a oedd yn dioddef syndrom poen rhanbarthol cymhleth, ac roedd yr hyn a ddysgais wedi fy helpu i'w gweld hi fel unigolyn cyfan ac i'w thrin hi'n gyfannol yn hytrach na chanolbwyntio ar drin y poen yn unig. Dysgais hefyd fwy am bolisïau'r llywodraeth ynglŷn â rheoli poen a chanllawiau newydd sydd ar ddod ynglŷn â'r cyflwr penodol hwn, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn."