Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol yn croesawu Gweinidog Busnes yr Wrthblaid

5 Tachwedd 2012

Shadow Business Minister

Ymwelodd Gweinidog Busnes, Menter a Thechnoleg yr Wrthblaid, Nick Ramsay AC, â Both Prifysgol Caerdydd Cyfrifiadura Perfformiad Uwch (HPC) Cymru, i weld sut y gall busnesau elwa o gael mynediad at y dechnoleg fwyaf datblygedig yn y byd.

Yn dilyn trosolwg o isadeiledd Cymru gyfan gan Gyfarwyddwr Technegol HPC Cymru, yr Athro Martyn Guest, aed â Mr Ramsay ar daith o gwmpas Both Caerdydd gan Andrew Thomas, Rheolwr Systemau Both Caerdydd. Mae Both Caerdydd HPC Cymru yn un o nifer o systemau uwchgyfrifiadura rhyng-gysylltiedig ledled Cymru sydd, gyda'i gilydd, yn llunio rhwydwaith uwchgyfrifiadura dosranedig mwyaf y DU, sy'n galluogi defnyddwyr i gyrchu'r dechnoleg arloesol yn lleol ac yn ddiogel.

Dywedodd Nick Ramsay: "Mae HPC Cymru yn fenter bwysig, gan ei bod yn bwriadu troi Cymru yn ganolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer ymchwil uwchgyfrifiadura arbenigol, gan sicrhau ein bod ni'n tyfu ein heconomi wybodaeth ac yn gallu cystadlu ar lefel fyd-eang.

"Trwy roi mynediad i fusnesau at y dechnoleg flaenllaw hon, ynghyd â'r hyfforddiant a'r cymorth i'w helpu i werthuso sut y gallan nhw ei defnyddio orau, maent yn agor drysau newydd i gwmnïau ledled Cymru.

"Mae cyfle gwirioneddol yma i gwmnïau gystadlu'n well yn erbyn cwmnïau mwy o ran y ffordd y maent yn defnyddio technoleg i ddod yn fwy arloesol yn y modd y maent yn gweithredu, a helpu i sicrhau'r fantais gystadleuol hollbwysig."

Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uwch (HPC) Cymru yn gwmni a ffurfiwyd i reoli cydweithredu ymhlith gwasanaethau mewn prifysgolion yng Nghymru. Mae gan dechnoleg cyfrifiadura perfformiad uwch y gallu i drafod a dadansoddi symiau enfawr o ddata ar gyflymder uchel, gan ddod â chynhyrchion a gwasanaethau newydd i'r farchnad yn gynt. Gall y dechnoleg helpu i hybu arloesedd a sicrhau mantais gystadleuol i gwmnïau o bob maint ar draws amrywiaeth o sectorau.

Mae HPC Cymru, a ariennir yn rhannol gan £24 miliwn trwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cymorth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn darparu hyfforddiant ac allgymorth i helpu cwmnïau i ddefnyddio technoleg uwchgyfrifiadura yn effeithiol, a grymuso arloesedd.

Rhannu’r stori hon