Clinig Llygaid
6 Tachwedd 2012
Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn y ffaith mai hi yw'r unig ganolfan academaidd ar gyfer optometreg yng Nghymru. Mae Helen Morris, Rheolwr Practis Optometryddion Prifysgol Caerdydd yn dweud wrth Blas sut gall staff a'u teuluoedd a'u ffrindiau gael profion llygaid am ddim a chefnogi hyfforddiant myfyrwyr presennol ar yr un pryd.
"Mae golwg yn cael effaith enfawr ar ein bywydau ond eto nid yw llawer ohonom yn cysylltu llygaid ag iechyd a dydyn ni ddim yn cael profion golwg cyson hyd yn oed os byddwn ni'n sylwi ar newid yn ein golwg.
Dylai archwiliadau llygaid fod yn gymaint rhan o'ch trefn arferol chi a'ch teulu ag ymweliad â'r deintydd. Gall unrhyw un ddatblygu problemau golwg, felly dyna pam mae archwiliadau cyson mor hanfodol.
Rydym yn ymfalchïo ein bod yn flaenllaw ym maes gofal llygaid a Phrifysgol Caerdydd yw'r unig ganolfan academaidd ar gyfer optometreg yng Nghymru.
Yn ystod y tymor mae myfyrwyr yn gwneud archwiliadau llygaid am ddim o dan oruchwyliaeth optometryddion cymwys. Felly maen nhw'n cael y profiad angenrheidiol o weithio gyda chleifion go iawn wrth hyfforddi i safonau proffesiynol, gan arwain at eu cymhwyster terfynol.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i holl staff Prifysgol Caerdydd yn ogystal â'r cyhoedd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi 90 munud o'ch amser i eistedd ar gyfer myfyriwr yn y flwyddyn olaf ac fel arwydd o'n gwerthfawrogiad byddwch yn derbyn disgownt o 20% oddi ar gost sbectolau newydd.
Os ydych chi'n gwisgo lensys cyffwrdd neu pe hoffech chi roi cynnig arnyn nhw, mae Optometryddion Prifysgol Caerdydd yn cynnig apwyntiadau am ddim bob prynhawn dydd Mawrth a dydd Iau yn ystod y tymor, gan fyfyrwyr optometreg yn eu blwyddyn olaf yn gweithio o dan oruchwyliaeth.
Mae'r offer i gyd gennym i gynnig gofal llygaid i'r cyhoedd ac rydym ar agor drwy'r flwyddyn ac mae darpariaeth ar gael i staff yn gyson gan ddefnyddio sgriniau arddangos.
Gobeithio y bydd cynifer ohonoch ag sy'n bosib yn ystyried dod yma i gefnogi ein myfyrwyr. Mae'r clinig addysgu'n cynnig yr un gofal llygaid o safon uchel â chlinigau ein hoptometryddion preswyl, ond maen nhw'n rhoi cyfle i'r genhedlaeth nesaf o optometryddion gael profiad clinigol gwerthfawr."
I wneud apwyntiad yn y Clinig Llygaid ffoniwch: 02920874357 E-bost: eyeclinic@cardiff.ac.uk neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cardiff.ac.uk/optom/eyeclinic/