Llwyddiant Stonewall
4 Gorffennaf 2012
Mae Caerdydd yn un o ddim ond saith prifysgol sydd wedi ennill y marciau llawn mewn rhestr wirio gan Stonewall i weld pa mor gefnogol yw prifysgolion i ddarpar fyfyrwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD).
Darparwyd arweiniad Gay by Degree gan Stonewall i helpu darpar fyfyrwyr i ddewis prifysgol a fydd yn croesawu a chefnogi myfyrwyr LHD, a'u caniatáu i ymddwyn yn ôl eu natur eu hunain a chyfrannu at eu profiad yn fyfyrwyr.
Mae Stonewall wedi gweithio gyda myfyrwyr i ganfod deg o bethau allweddol y dylai prifysgolion eu gwneud i gynnig y profiad mwyaf positif posibl i fyfyrwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o fod wedi sgorio 10/10 yn y rhestr wirio hon.
Dywedodd Cyfarwyddwr Stonewall Cymru, Andrew White: 'Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â chwe phrifysgol arall yn y DG sydd wedi ennill y marciau llawn yn Gay By Degree Stonewall 2013.
"Mae'n eithriadol o bwysig fod pobl hoyw sy'n gadael ysgol yn gallu chwilio am brifysgolion lle gallan nhw ymddwyn yn ôl eu natur eu hunain. Wrth gefnogi eu myfyrwyr a staff hoyw mor effeithiol, mae Caerdydd yn helpu i wneud yn siŵr fod yr holl fyfyrwyr yn cael dechrau gwirioneddol wych i'w bywyd yn oedolion".
Dywedodd yr Athro Terry Threadgold, y Dirprwy Is-ganghellor dros Staff ac Amrywiaeth : "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi sgorio marciau llawn am gefnogi myfyrwyr LHD a byddwn yn parhau i wneud popeth posibl i wneud yn siŵr fod ein holl fyfyrwyr yn cael y profiad gorau oll gennym – mae'n bwysig i ni ein bod yn gwneud hyn yn iawn."
Roedd Prifysgol Caerdydd hefyd wrth ei bodd yn cael ei chydnabod yn gynharach eleni yn un o'r cant o gyflogwyr gorau ym Mynegrif Cydraddoldeb Stonewall 2012.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys proffiliau pob prifysgol yn y DG, ar gael ar dudalennau gwe Gay by Degree:http://www.gaybydegree.org.uk/index.html