Darpar gyfreithwyr yn cael blas ar y proffesiwn
3 Gorffennaf 2012
Bydd disgyblion o ysgolion yng nghymoedd Caerdydd ac Abertawe'n cael trafodaeth yr wythnos hon â phrif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru ynghylch a ddylai Cymru gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.
Tra bod Aelodau'r Cynulliad yn parhau i drafod materion yn ymwneud ag awdurdodaeth gyfreithiol wahanol, bydd 20 o ddisgyblion Blwyddyn 12 o ddeg ysgol yn rhoi eu barn i Theodore Huckle QC, Cwnsler Cyffredinol, ar ddydd Mercher 4 Gorffennaf, fel rhan o fenter tri diwrnodCamu i Fyny – Ysgol Haf y Gyfraith.
Y nod yw rhoi profiad uniongyrchol o astudio'r gyfraith a gwaith y proffesiwn cyfreithiol i bobl ifanc. Caiff yr Ysgol Haf ei threfnu ar y cyd â Phrifysgol Abertawe ac mae'n rhan o Fenter y Gyfraith y Cymoedd. Mae wedi'i hanelu at ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion sydd heb draddodiad cryf o symud ymlaen i addysg uwch ond sydd â diddordeb yn y posibilrwydd o ddilyn gyrfa yn y gyfraith.
Mae'r Ysgol Haf wedi'i datblygu o amgylch thema eleni, sef 'Cyfraith a Llywodraeth', a bydd yn cynnwys taith i'r disgyblion o gwmpas Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Bae, dysgu mwy am y llywodraeth yng Nghymru, astudio'r gyfraith yn y brifysgol, ac agweddau eraill ar fywyd myfyrwyr yn ystod y tri diwrnod. Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys ymchwil, gwaith prosiect a gweithdai ymarferol, a chyflwyniad o'u gwaith gan bob disgybl.
Dywedodd yr Athro Norman Doe o Ysgol y Gyfraith Caerdydd, a sefydlodd y fenter yn 2002: "Sefydlwyd Menter y Gyfraith y Cymoedd yn wreiddiol er mwyn annog disgyblion i ystyried y posibilrwydd o astudio'r gyfraith yn y brifysgol. Mae'r Ysgol Haf yn rhan annatod o'r fenter hon, a phob blwyddyn mae ansawdd y disgyblion, a'u hegni a'u brwdfrydedd, wedi bod yn rhagorol - maen nhw'n glod i'w hysgolion. Yn y digwyddiad, mae'r disgyblion yn archwilio rôl y gyfraith mewn cymdeithas, ei hollbresenoldeb ym mywydau unigolion, a'i lle sylfaenol wrth geisio sicrhau cydlyniant a chyfiawnder cymdeithasol."
Dywedodd Theodore Huckle QC: "Fel rhywun a fu'n ddigon ffodus i gael y cyfle i fynd i brifysgol a dilyn gyrfa ym mhroffesiwn y gyfraith, rwy'n benderfynol o wneud yr hyn y gallaf i annog disgyblion nad ydynt efallai wedi ystyried mynd i brifysgol, i ystyried gwneud hynny.
"I lawer o'r disgyblion y cefais y pleser o'u cyfarfod, mae datganoli wedi bod yn realiti am y rhan fwyaf o'u bywydau. Mewn ychydig wythnosau, byddwn yn dyst i ddigwyddiad arwyddocaol dros ben yn hanes cyfansoddiadol ein gwlad, pan fydd y Ddeddf gyntaf i'w phasio gan y Cynulliad o dan ein pwerau newydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines. Mae'n amser cyffrous iawn i fod yn gyfreithiwr yng Nghymru.
"Rwy'n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i rannu fy mhrofiadau o addysg uwch, ac i roi cipolwg ar y proffesiwn cyfreithiol iddyn nhw - gan gynnwys fy ngwaith fel Cwnsler Cyffredinol Cymru. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw."
Mae Camu i Fyny – Ysgol Haf y Gyfraith yn un o nifer sydd wedi'u trefnu gan Dîm Ehangu Mynediad y Brifysgol yr wythnos hon i annog myfyrwyr sydd heb draddodiad cryf o symud ymlaen i addysg prifysgol i ystyried gyrfaoedd proffesiynol. Bydd 60 o ddisgyblion eraill yn mynychu Ysgol Haf Mynediad i'r Proffesiynau sy'n anelu at godi dyheadau o ran detholiad ehangach o yrfaoedd proffesiynol, gan gynnwys meddygaeth, fferylliaeth, ffisiotherapi a busnes.
Hefyd, cynhelir Ysgol Haf Dyfodol Hyderus yr wythnos hon, sef cynllun unigryw yng Nghymru ble mae pobl ifanc yn treulio dau ddiwrnod yn y Brifysgol er mwyn cael blas ar symud o dderbyn gofal i fywyd prifysgol. Mae'r cynllun hwn, sydd yn ei bumed flwyddyn erbyn hyn, wedi cael llawer o gymeradwyaeth gan broffesiynolion gwaith cymdeithasol ledled De Cymru. Caiff ei gefnogi gan dimau Plant sy'n Derbyn Gofal o Gaerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Bro Morgannwg, Penfro a Wrecsam.
Hefyd, bydd y Brifysgol yn croesawu disgyblion i Ysgol Haf Darganfod y Brifysgol. Mae hwn yn gynllun unigryw arall yng Nghymru, gyda'r nod o godi dyheadau a magu hyder a sgiliau ymhlith pobl ifanc 15-19 mlwydd oed sydd â Syndrom Asperger. Mae'r digwyddiad deuddydd yn rhoi profiad o'r dyddiau cyntaf o fywyd myfyriwr mewn amgylchedd diogel gyda chefnogaeth. Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, gan gynnwys aros dros nos mewn neuaddau preswyl, defnyddio cyfleusterau'r brifysgol, cyflwyno traethodau, llywio'u ffordd o gwmpas y campws, a chynllunio digwyddiadau cymdeithasol.
Caiff Ysgolion Haf Dyfodol Hyderus a Darganfod eu cyllido gan Gampws Cyntaf, sef partneriaeth o holl sefydliadau addysg bellach ac uwch De-ddwyrain Cymru.