Y Gyfraith a chwaraeon
7 Tachwedd 2012
Lansiwyd gwasanaeth cyngor cyfreithiol am ddim i glybiau rygbi Cymru gan Undeb Rygbi Cymru mewn partneriaeth ag Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd.
Bydd myfyrwyr ar gael i gynnig cyngor cyfreithiol am ddim i holl aelodau Undeb Rygbi Cymru sydd islaw lefel lled-broffesiynol Adran y Principality ledled Cymru.
Y nod yw canfod datrysiadau ymarferol i broblemau sylfaenol a sicrhau bod clybiau'n hollol ymwybodol o'r ffordd orau i ddatrys unrhyw anghydfod. Nod y prosiect yw cynnig yr un cyngor cyfreithiol o'r safon orau y byddai aelodau'r clwb yn ei gael gan unrhyw gyfreithiwr neu fargyfreithiwr.
Bydd y cynllun yn cael ei reoli a'i fonitro gan staff Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd. Cefnogir y prosiect gan gwmni'r gyfraith Hugh James, a siambrau bargyfreithwyr Civitas yng Nghaerdydd. Bydd eu staff yn cynnig arweiniad a chymorth proffesiynol i'r myfyrwyr a fydd yn gofyn am gyngor, a byddant yn tanysgrifennu'r cyngor cyfreithiol a roddwyd.
Bydd Swyddogion Cyfranogiad Undeb Rygbi Cymru hefyd yn cysylltu â'r clybiau a'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan er mwyn canfod yr achosion hynny a fyddai'n elwa o'r cynllun.
Mae'r prosiect yn un ddwyieithog a gall clybiau gyflwyno negeseuon e-bost ac ymholiadau ysgrifenedig drwy neges e-bost (yn Saesneg intouch@caerdydd.ac.uk neu yn Gymraeg at camsefyll@caerdydd.ac.uk), dros y ffôn (drwy switsfwrdd Ysgol y Gyfraith ar 02920 876705 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm) neu drwy'r post (at Undeb Rygbi Cymru/Tîm Pro Bono Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Rhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd CF10 3AX).
Ni fyddwn yn cynnig cyngor ar lafar o dan y cynllun hwn, ond byddwch yn derbyn unrhyw ymateb ysgrifenedig o fewn graddfa amser a gytunwyd arno.
Cyn bo hir, bydd newyddlen ddwyieithog yn manylu am y cynllun ac yn cynnwys cyngor cyfreithiol ar faterion brif ffrwd yn cael ei dosbarthu i glybiau rygbi Cymru fel rhan o'r prosiect, gyda diweddariadau i ddilyn.
Dywedodd Rhodri Lewis, Pennaeth Materion Cyfreithiol Undeb Rygbi Cymru: "Rwy'n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn cynnig manteision clir i'r holl glybiau sy'n aelodau o Undeb Rygbi Cymru.
"Mae clybiau'n wynebu llawer o faterion cyfreithiol ar sail reolaidd, a byddai'n bosibl datrys y rhain yn effeithiol gyda'r cyngor cyfreithiol cywir.
"Mae'r cynllun hwn yn galluogi swyddogion clybiau i geisio cyngor gan wybod na fyddant yn rhedeg i gostau.
"Mae'r myfyrwyr yn astudio'r gyfraith a bydd y cyngor maent yn ei gynnig yn cael eu hadolygu cyn ei roi i'r clybiau.
"Heb amheuaeth, bydd y myfyrwyr yn elwa o gymryd rhan mewn materion go iawn a fydd yn rhoi cyfle iddynt ennill profiad ymarferol ac ystyrlon.
"Rwy'n ddiolchgar i Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd am gytuno i sefydlu'r cynllun hwn ac i gwmni'r gyfraith Hugh James a Siambrau bargyfreithwyr Civitas am gynnig eu cymorth a'u cefnogaeth."
Ychwanegodd Julie Price, Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Chyflogadwyedd, a Darllenydd y Gyfraith, yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd: "Rydym yn falch cael y cynllun newydd hwn y ein portffolio ar gyfer cyfleoedd Y Gyfraith yn y Byd Real ar gyfer ein myfyrwyr, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a'r clybiau sy'n aelodau. Mae gan ein cynlluniau "pro-bono" eraill ffocws ar gyfiawnder cymdeithasol, ond mae cynllun "Y Gyfraith a Chwaraeon" Undeb Rygbi Cymru, yn rhoi cyfle i'n myfyrwyr gael profiad ymarferol mewn cyd-destun busnes a masnach ehangach.
"Clybiau rygbi yw calon llawer o'n cymunedau, felly mae'r cynllun hwn nid yn unig yn rhoi cyfle ymarferol da i'n myfyrwyr ond mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
"Rydym yn ddiolchgar i Gareth Williams yn enwedig, sef Uwch Bartner cwmni Hugh James, ac i Cathrine Grubb, Bargyfreithiwr gyda Siambrau Civitas, a'u cydweithwyr, sy'n goruchwylio'r cyngor cyfreithiol a gynigir o dan y cynllun".