Bryngaer yr Oes Haearn yn datgelu ei chyfrinachau
30 Awst 2012
Mae cloddiadau ym mryngaer gynhanesyddol fwyaf Prydain wedi rhoi cipolwg i archeolegwyr o brifysgolion Caerdydd a Chaergrawnt ar sut beth oedd bywyd yn y gaer dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae Niall Sharples o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Caerdydd a Chris Evans o Uned Archaeolegol Caergrawnt yn cyd-arwain tîm sy'n cloddio yn Ham Hill yng Ngwlad yr Haf.
Mae safle Ham Hill yn ymestyn dros fwy nag 80 hectar, ac mae'n safle ag arwyddocâd cenedlaethol ym Mhrydain, ond ychydig iawn sy'n hysbys ynghylch ei ystyr neu ei swyddogaeth. Mewn prosiect tair blynedd, mae archaeolegwyr o Gaerdydd a Chaergrawnt yn cynnal y cloddiad mwyaf trylwyr ar y safle hyd yn hyn, gyda'r nod o drawsnewid ein dealltwriaeth o'r gaer.
Mae cloddiadau 2012 yn canolbwyntio ar y rhagfuriau sy'n amgylchynu a diffinio'r fryngaer – un ar yr ochr ddeheuol a dwy ar yr ymyl ogleddol.
Wrth sôn am yr archwiliad hwn o'r rhagfuriau, dywedodd Niall Sharples o Brifysgol Caerdydd: "Mae ein cloddiadau wedi datgelu dyddodion anheddiad sydd wedi cadw'n arbennig o dda yn yr ardal yn union y tu ôl i'r rhagfuriau. Yn y de, cafodd tŷ ei adeiladu yn yr Oes Haearn yng nghefn y rhagfur. Yn wahanol i'r tai o fewn y gaer, mae gan y tŷ hwn wal gerrig a adeiladwyd o slabiau o garreg Ham leol ac mae dyddodion y llawr mewn cyflwr da ac yn cynnwys yr hyn sy'n ymddangos i fod yn weddillion rhaniad pren sydd wedi'i losgi. Nid yw'r un o'r tai a gloddiwyd yn flaenorol wedi dangos unrhyw dystiolaeth o waliau cerrig a chredwyd na ddefnyddiwyd carreg Ham fel adnodd hyd nes i'r Rhufeiniaid gyrraedd yr ardal. Rydym yn credu ein bod efallai wedi dod o hyd i'r tŷ Carreg Ham cyntaf ym Mhrydain.
"Yn y gogledd, darganfuwyd tomenni sbwriel wedi'u gosod yn erbyn y rhagfur sy'n cynnwys llawer o lestri wedi torri ac esgyrn anifeiliaid, a bollten falista haearn yn gorwedd ar ben y rhagfur. Mae'r rhain yn dangos y bu llu milwrol Rhufeinig yn meddiannu'r fryngaer yn y cyfnod wedi'r goresgyniad."
Mae gwaith mewn ardal gyfagos i'r rhagfuriau wedi datgelu lloc hirsgwar mawr wedi'i amgylchynu gan dystiolaeth o weithgarwch yn yr Oes Haearn, gan gynnwys tai crwn a phyllau ar gyfer storio grawn. Mae'r tîm wedi dyddio'r gweithgaredd hwn i'r ail ganrif a'r ganrif gyntaf CC, sef y cyfnod pan oedd llawer o bobl yn byw yn y fryngaer.
Mae archwiliadau o'r lloc hwn wedi datgelu rhai darganfyddiadau annisgwyl, "Ychydig iawn o dystiolaeth o weithgarwch anheddiad y daethom o hyd iddi o fewn y lloc," dywedodd Chris Evans o Brifysgol Caergrawnt. "Nodwedd anghyffredin arall yw bod y ffin wedi'i dinistrio'n fwriadol; cafodd y clawdd o amgylch y lloc ei ddymchwel yn systematig a chafodd ffasâd carreg manwl a oedd yn nodi'r fynedfa ei ddatgymalu'n fwriadol a'i osod mewn ffos. Mae absenoldeb tystiolaeth o anheddiad yn ogystal â'r datgymalu bwriadol yn awgrymu bod y lloc yn fan arbennig o fewn y fryngaer, ac efallai y cafodd ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau cymunedol a gadwyd ar wahân i weithgareddau domestig beunyddiol."
Hefyd darganfu'r tîm gyfres o derfynau caeau sy'n rhagflaenu lloc y fryngaer, yn dyddio'n ôl i anheddu yn yr ardal yn yr Oes Efydd.
"Mae arolwg geoffisegol diweddar o'r safle a gynhaliwyd gan English Heritage yn ei gwneud yn amlwg y cafodd holl gopa'r bryn ei rannu'n systematig yn gaeau yng nghanol yr ail fileniwm CC," ychwanegodd Chris. "Felly mae'n rhaid bod y gwaith o adeiladu'r fryngaer yn cynrychioli cefnu ar ardal sylweddol o dir ffermio a gweddnewid mawr ar y dirwedd."
Bydd y trydydd tymor, sef yr olaf, o waith cloddio yn Ham Hill yn digwydd yn 2013. Mae gwaith cloddio 2012 yn parhau ac mae'r archeolegwyr yn gobeithio cael mwy o ddarganfyddiadau cyffrous yn yr wythnosau sy'n weddill. Mae diwrnod agored i'r cyhoedd ar y gweill ar gyfer dydd Sadwrn 1 Medi 2012, pryd y bydd ymwelwyr yn gallu dysgu mwy am y gloddfa a gweld rhai o'r arteffactau a ddarganfuwyd.