Arloesi yng Nghymru
9 Tachwedd 2012
Mae'r ffordd orau o ddatblygu mwy o dreialon polisi ac integreiddio gwaith ymchwil a llunio polisïau wedi bod yn thema seminar undydd yn y Brifysgol.
O dan ofal y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, daeth y digwyddiad â llunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr ynghyd i drafod a datblygu polisïau ar sail tystiolaeth.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar astudiaethau achos o dreialon polisi trylwyr yng Nghymru a arweiniwyd gan DECIPHer, gan gynnwys: y Cynllun Cyfeirio Ymarfer Cenedlaethol, yr Astudiaeth ar Frecwast Ysgol, y Prosiect Polisi Alcohol a Normau Cymdeithasol a'r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd.
Hefyd aethpwyd i'r afael â materion ehangach ynghylch heriau'r berthynas rhwng gwaith ymchwil a llunio polisïau, gan dynnu ynghyd y damcaniaethau a modelau diweddaraf mewn gwyddorau cymdeithasol ar y ffordd y caiff tystiolaeth ei defnyddio mewn polisïau, a systemau a strwythurau sy'n hyrwyddo defnydd o dystiolaeth.
Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Dr Simon Murphy o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: "Cynhaliwyd y digwyddiad hwn fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac roedd yn cydnabod yr hanes cryf sydd gennym yng Nghymru o ddatblygu a hwyluso treialon polisi. Y gobaith yw y gall digwyddiadau fel hyn amlygu dulliau y gellid eu defnyddio ledled y DU ac yn ehangach."
Mae DECIPHer yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ynghyd o ystod o ddisgyblaethau i fynd i'r afael â materion iechyd y cyhoedd gyda ffocws penodol ar ddatblygu a gwerthuso ymyriadau aml-lefel a fydd yn cael effaith ar iechyd a lles plant a phobl ifanc. Cynhelir Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol rhwng 3 a 10 Tachwedd 2012 a'i nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o'r cyfraniadau y mae'r gwyddorau cymdeithasol yn eu gwneud i les ac economi cymdeithas yn y DU.