Llwyddiant Ariannu
9 Tachwedd 2012
Bydd grant ymchwil pwysig sy'n cael ei ddyfarnu i wyddonwyr yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg yn datblygu ymhellach gyfryngau newydd i ddeall achosion colli golwg.
Dyfarnwyd grant gwerth £1.75 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i'r Athro Keith Meek a'i gyd-ymchwilwyr yn y Grŵp Ymchwil Bioffiseg Ffurfiannol. Bydd y grant yn ariannu ymchwil i ffurfiant y gornbilen ac yn dadlennu'r rhesymau dros abnormaleddau a all, oni chânt eu trin, arwain at golli golwg.
Y gornbilen yw'r ffenestr dryloyw ym mlaen y llygad. Er mwyn gwneud ei gwaith fel prif elfen ffocysu'r llygad, rhaid iddi fod â siâp perffaith, yn dryloyw, a chryf . Rheolir yr holl elfennau hyn gan y ffibrau colagen sydd yn ffurfio'r gornbilen a'r molecylau o broteinau a siwgrau sy'n bodoli rhyngddynt.
Bydd yr Athro Meek a'i dîm yn defnyddio technegau delweddu biolegol 3-D newydd ac arbrofion mesur pelydr-x cryf i archwilio wlrtra-ffurfiant y gornbilen yn fanwl dros ben. Bydd hyn yn eu caniatáu i esbonio'r hyn sy'n mynd o'i le mewn sawl abnormaledd sy'n arwain at glefyd a cholli golwg. Hefyd, bydd y tîm yn archwilio dulliau newydd i geisio gwella canlyniadau llawdriniaeth blygiannol laser.
Dywedodd yr Athro Meek: "Hwn yw'r trydydd dyfarniad pum-mlynedd yn olynol i'n grŵp gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, sy'n dangos pa mor bwysig yw'r math hwn o ymchwil, a bydd yn golygu y gallwn adeiladu yn sylweddol ar ein darganfyddiadau blaenorol yn y maes hollbwysig hwn. Mae yna sawl llinyn i'n hymchwil, a gallai pob un gael effaith bwysig ar iechyd y cyhoedd ac effaith barhaol ar ansawdd bywyd yn fyd-eang."
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae prinder meinwe cornbilen wedi gorfodi sawl grŵp ymchwil mewn gwahanol wledydd i geisio creu cornbilen artiffisial fiolegol. Gellid defnyddio elfennau o'r ymchwil newydd hwn hefyd i gefnogi datblygiadau pwysig yn y maes hwn.
Ychwanegodd yr Athro Meek: "Bydd yr wybodaeth a gawn wrth weld yr union berthynas rhwng ffurfiant y gornbilen a'i swyddogaeth, yn caniatáu i ni gydweithio â grwpiau rhyngwladol fel y gallant greu yn gynt gornbilen artiffisial sy'n gwbl effeithiol. "
Hefyd, bydd y dyfarniad yn caniatáu i'r grŵp brynu microsgop electron, y gorau o'i fath, a fydd yn caniatáu i ffurfiant meinwe'r llygad gael ei archwilio mewn tri dimensiwn â chwyddiadau uchel dros ben. Nid oes yr un microsgop tebyg ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru ac nid oes ond ychydig yn y DG.