Hwb ariannol o £13m gan yr UE ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
30 Ionawr 2017

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi hwb ariannol o £13m gan yr UE er mwyn helpu i sicrhau bod Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan flaenllaw yn nhechnolegau’r 21ain ganrif.
Bydd yr arian gan yr UE yn mynd at adeiladu, prynu cyfarpar a chynnal ystafell lân o'r radd flaenaf yn y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd newydd, yng Nghampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd.
Bydd y Sefydliad yn defnyddio ymchwil ei labordai i greu cynhyrchion a gwasanaethau drwy weithio gyda phartneriaid masnachol i arwain y gwaith o ddatblygu un o dechnolegau allweddol y byd – Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Bydd buddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf er mwyn galluogi'r byd academaidd a byd diwygiant i gydweithio a chynnal mwy o ymchwil yn y sector hwn yn rhoi hwb pwysig i economi Cymru..."

"Bydd y cyllid hwn gan yr UE yn hybu swyddi â chyflog da yn y cwmnïau sy'n cymryd rhan, yn arwain at gwmnïau deillio a busnesau newydd, ac yn denu cwmnïau lled-ddargludyddion cyfansawdd arloesol o ledled y DU ac Ewrop. Bydd hyn i gyd yn hybu twf a ffyniant yn y rhanbarth."

Mae'r rhyngrwyd wedi'i seilio ar dechnolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd, ac maent wedi ein galluogi i greu technolegau newydd fel ffonau clyfar, llechi a chyfathrebu drwy loeren. Caiff lled-ddargludyddion cyfansawdd eu creu drwy gyfuno elfennau i gynhyrchu deunyddiau â nodweddion ffisegol a chemegol y gellir eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o bethau ym myd technoleg.
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae'r arian hwn gan yr UE yn rhan hanfodol o'n cynnig i greu ffyniant yn Ne Cymru drwy arloesedd diwydiannol…”

"Drwy fuddsoddi mewn cyfleusterau o safon ac ymchwilwyr talentog, a thrwy ddatblygu partneriaethau masnachol hirsefydlog, bydd System Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn helpu i sicrhau bod Cymru'n ffynnu."
Dywedodd Dr Drew Nelson, Prif Swyddog Gweithredol IQE plc: "Cydnabyddir y rôl sydd gan led-ddargludyddion cyfansawdd fel technoleg galluogi mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys cyfathrebu cyflym neu gerbydau awtonomaidd, ar lefel fyd eang. Mae mentrau sylweddol ar y gweill gan gwmnïau o'r radd flaenaf, sefydliadau academaidd, ac asiantaethau llywodraeth, yn enwedig yn Asia a'r UDA..."
"Yn Ewrop, mae gan Gymru fàs critigol o arbenigedd ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, sy'n ein rhoi mewn sefyllfa unigryw i allu manteisio ar y llu o gyfleoedd masnachol a fydd yn sicr yn cael eu creu."

"Mae'r buddsoddiad o £13m gan WEFO a gyhoeddwyd heddiw yn ei wneud yn fwy tebygol y bydd Cymru'n dod yn ganolfan ryngwladol ar gyfer y dechnoleg allweddol hon, a bydd hyn yn sbarduno arloesedd dros y blynyddoedd a degawdau nesaf."
Mae'r arian yn ychwanegu at waith hirsefydlog rhwng y Brifysgol, IQE, a Llywodraethau Cymru a'r DU i ddatblygu canolfan arbenigedd lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru, ac mae'n cynnwys gwobrau o £17.3m gan Gronfa Buddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU a £12m gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad cyfleuster ehangach y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.