Pobl greadigol y Brifysgol yn arlunio i gefnogi hosbis plant
27 Ionawr 2017
Mae Prifysgol Caerdydd yn gwahodd staff, myfyrwyr a graddedigion i fod yn rhan o lwybr gelf gyffrous ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg
Bydd Tŷ Hafan, yr unig hosbis ar gyfer plant yn ne Cymru, yn cynnal ei hymgyrch Snowdogs: Tails in Wales yn ystod yr hydref i godi arian ar gyfer plant â chyflyrau sy'n byrhau bywyd, a'u teuluoedd.
Fel rhan o'r ymgyrch bydd cnud o gerfluniau cŵn eira ag uchder o 1.5m yn cael dyluniad unigryw gan artistiaid cyn cael eu rhyddhau ar strydoedd, adeiladau a mannau agored eiconig er mwyn i ffrindiau a theuluoedd eu dilyn.
Yna, bydd y cŵn eira yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn i godi arian ar gyfer yr hosbis plant.
Gofynnir i artistiaid gyflwyno dyluniadau i'w paentio ar y cerfluniau cŵn eira, ac fel un o'r sefydliadau cyntaf i noddi ci eira ar gyfer y llwybr, mae Prifysgol Caerdydd yn gwahodd ei chymuned greadigol i gysylltu er mwyn cynnig eu cefnogaeth.
Dywedodd Helen Gibbons, Rheolwr y Prosiect: "Mae ein cerfluniau cŵn eira wedi eu seilio ar y nofel a chartŵn poblogaidd gan Raymond Briggs, The Snowman and The Snowdog.
"Os ydych chi'n artist, boed hynny'n un adnabyddus neu ddim, cysylltwch â ni gyda'ch syniadau a rhannwch eich doniau creadigol i helpu i godi arian ar gyfer y teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi yn Nhŷ Hafan."
Bydd yr artistiaid sy'n cael eu dewis i gymryd rhan yn cael £850 a bydd eu gwaith yn cael ei arddangos i gynulleidfa enfawr mewn rhai o fannau cyhoeddus enwocaf Cymru.
Gallwch lawrlwytho pecynnau artistiaid a ffurflenni cais o wefan Snow Dogs: Tails in Wales.
Mae ceisiadau'n cau am 5pm, 28 Ebrill 2017, bydd rhestr fer o ddyluniadau'n cael ei llunio ym mis Mai, a bydd y cerfluniau'n cael eu haddurno ym mis Mehefin a Gorffennaf.
Os ydych chi'n artist proffesiynol neu amatur sydd a diddordeb mewn dylunio ci eira ar gyfer y prosiect, cysylltwch â Rheolwr y Prosiect, Helen Gibbons, drwy anfon ebost, ffonio 07711 342086 neu fynd i’r diwrnod agored ar 9 Mawrth rhwng 8am a 6pm yng nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, CF11 0SY.