Lluniau o lewpard ac arth
17 Awst 2012
Mae lluniau prin o lewpard brith Sunda ac arth Malaia wedi'u tynnu gan Ganolfan Maes Danau Girang, sy'n cael ei rhedeg gan Ysgol y Biowyddorau yn Borneo.
Tynnwyd y ddau lun yn rhan o Raglen Cigysyddion Kinabatangan y Ganolfan.
Eglurodd Dr Benoit Goossens o Ysgol y Biowyddorau a Chyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang: "Mae'n rhaglen hirdymor sy'n ceisio taflu goleuni ar ecoleg a niferoedd cigysyddion Borneo a datblygu modelau o ddosbarthiad rhywogaethau ac addasrwydd eu cynefinoedd. Fel gwarchodwyr a rheolwyr bywyd gwyllt, mae'n hollbwysig ein bod yn canfod pa gyfleoedd sydd gan y cigysyddion hyn a mamaliaid eraill o fewn tirwedd dameidiog Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Is Kinabatangan i ymledu, a sut y gellid diogelu, gwella ac adfer coridorau ymledu. Dyna pam ein bod, yn rhan o'r rhaglen hon, yn monitro coridor cul o goedwig sy'n cysylltu dau ddarn o goedwig yn y Warchodfa."
Ychwanegodd Dr Laurentius Ambu, Cyfarwyddwr Adran Bywyd Gwyllt Sabah yn Borneo: "Bwriad Rhaglen Cigysyddion Kinabatangan, a gychwynnwyd gan Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Chanolfan Maes Danau Girang, yw cynyddu'r ddealltwriaeth o gigysyddion amrywiol gorlifdir Is Kinabatangan a gwella eu cadwraeth. I'r perwyl hwn, rydym yn cydweithio ag Andrew Hearn o WildCRU (Prifysgol Rhydychen, y DU) sydd wedi treulio'r pedair blynedd diwethaf yn astudio llewpardiaid brith a chigysyddion eraill yn Nyffryn Danum a Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Tabin. Mae ei brofiad o ddefnyddio trapiau camera yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y prosiect hwn."
Ariennir y rhaglen gan Sw Houston, Sw Phoenix, Sw Cincinnatti a Sw Columbus.
Mae Canolfan Maes Danau Girang yn galluogi ymchwilwyr i gael gwell dealltwriaeth o hanfodion coedwigoedd sydd dan fygythiad. Mae hefyd yn cynnig rhaglenni addysgu a hyfforddi i fyfyrwyr o Gaerdydd, Malaysia a gwledydd eraill.