Lansio fforwm busnes lleol
26 Ionawr 2017
Mae prosiect cymunedol â chefnogaeth Prifysgol Caerdydd sy'n annog pobl i siopa'n lleol wedi lansio fforwm busnes newydd yn llwyddiannus.
Bydd busnesau yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd yn cydweithio i elwa ar gyfleoedd i gael hyfforddiant, cyngor a rhwydweithio.
Mae Fforwm Busnes Grangetown yn rhan o brosiect cymunedol i annog pobl i siopa'n lleol, ar y cyd ag Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, prosiect ymgysylltu Porth Cymunedol y Brifysgol, a Gweithredu Cymunedol Grangetown.
Cafodd lansiad y fforwm yn Tramshed Tech yn Grangetown ei arwain gan y mentor busnes Rob Firth, ac roedd yn cynnwys hyfforddiant gan arbenigwr o Google ynglŷn â sut i hybu presenoldeb ar-lein busnes.
Mae myfyrwyr busnes y Brifysgol wedi elwa drwy gyfrannu at y fforwm fel rhan o'u hastudiaethau.
Bydd cyfarfodydd yn y dyfodol hefyd yn cynnig platfform i fusnesau drafod materion a helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau lleol drwy sesiynau holi ac ateb gyda chynghorwyr y ddinas ac arweinwyr cyngor y ddinas.
Syniad Steve Duffy, o Weithredu Cymunedol Grangetown, oedd y fforwm, a sefydlwyd yn sgil arolwg o fwy na 150 o siopwyr a busnesau a ddangosodd bod yna gryn dipyn o gefnogaeth i ymgyrch i siopa'n lleol.
Mae'r syniadau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn cynnwys marchnad stryd, cynllun teyrngarwch cwsmeriaid ac wythnos siopa'n lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect siopa'n lleol, ebostiwch grangetowncardiff@yahoo.co.uk neu ewch i dudalennau gwe Love Grangetown, Shop Grangetown.
Mae'r Porth Cymunedol yn gweithio law yn llaw â thrigolion Grangetown i wneud yr ardal yn lle gwell fyth i fyw.
Mae'n un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw’r Brifysgol, sydd hefyd yn cael ei alw'r Rhaglen Trawsnewid Cymunedau, sy'n gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.