Bwrw goleuni ar y tueddiadau cymdeithasol diweddaraf ymhlith Mwslimiaid
26 Ionawr 2017
Ffasiwn, amlddiwylliannaeth, troi pobl at grefydd, a hawliau claddu yw rhai o'r testunau sy'n cael eu trafod yn y Ganolfan ar gyfer Astudio Islam yn y DU, Prifysgol Caerdydd, yng nghyfres seminarau cyhoeddus blynyddol y ganolfan.
Mae'r gyfres o seminarau cyhoeddus yn gyfuniad o ymchwil flaenllaw a phrofiadau pobl leol sy'n bwrw goleuni ar y materion a thestunau sy'n effeithio ar Fwslimiaid yn y DU, ac yn denu siaradwyr dylanwadol o'r DU ac yn rhyngwladol.
Yn y seminar agoriadol ar 1 Chwefror 2017, o'r enw Dinasyddiaeth Ryddfrydol, Amlddiwylliannaeth a Mwslimiaid yn Ewrop, bydd yr Athro Nasar Meer, Cadeirydd mewn Dinasyddiaeth Gymharol a Pholisïau Cymdeithasol (Prifysgol Ystrad Clud), yn cynnig cipolwg ar y sefyllfa bresennol ar gyfer Mwslimiaid yn y DU a ledled Ewrop.
Ac yntau'n awdur Interculturalism and Multiculturalism: Debating the Dividing Lines (2016) a Citizenship, Identity and the Politics of Multiculturalism: The Rise of Muslim Consciousness (2015), cafodd yr Athro Nasar Meer Fedal Thomas Reid ar gyfer Rhagoriaeth gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin yn 2016.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys adroddiad gan Citizens Cymru Wales ar sail eu hymgyrch i wrando ar y gymuned leol, Dignity in Burial, sy'n canolbwyntio ar drallod teuluoedd Mwslimaidd nad ydynt yn gallu claddu eu hanwyliaid yn unol ag athrawiaeth Islamaidd weithiau.
Mae'r seminar, sydd wedi'i gadeirio gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Citizens-UK, Jonathan Cox, hefyd yn cynnwys safbwyntiau cymdeithasol, diwinyddol, gwleidyddol a chymunedol a archwiliwyd fel rhan o ymgyrch Dignity in Burial, ac yna cynhelir dadl gyhoeddus.
Dywedodd yr Athro Sophie Gilliat-Ray, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Astudio Islam yn y DU, sy'n rhan o Ysgol Hanes, Pensaernïaeth a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: "Yn sgil Comisiwn Citizens UK ynglŷn ag Islam, Cyfranogi a Bywyd Cyhoeddus, bydd y gyfres o seminarau amserol hon yn rhannu ymchwil a safbwyntiau cymunedol, ac yn ysbrydoli deialog cyhoeddus am amrywiaeth o faterion y mae Mwslimiaid yng ngwledydd Prydain yn eu hwynebu heddiw."
Mae themâu'r seminarau eraill yn cynnwys materion cyfoes megis troi pobl at Islam ym Mhrydain, ffasiynau Mwslimaidd gwylaidd, a bywydau Mwslimiaid ifanc ym Mhrydain.
Cynhelir yr holl ddigwyddiadau am 17.00 yn Adeilad John Percival (ystafell 5.24) ac eithrio'r seminar agoriadol (1 Chwefror, 19.00, Adeilad Morgannwg, Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2). Mae'r darlithoedd yn rhad ac am ddim ond dylech gadw lle ymlaen llaw.
Mae'r Ganolfan ar gyfer Astudio Islam yn y DU, a agorwyd yn 2005, yn cynnal mentrau addysgol o safon sy'n cael effaith leol, genedlaethol a rhyngwladol.
Ers 2009, mae ei Chyfres Flynyddol o Seminarau Cyhoeddus wedi cyflwyno'r ymchwil ddiweddaraf i'w chymuned leol yng Nghaerdydd, ac mae'n dal i gael ei ffrydio'n fyw ar-lein i filoedd o bobl yn fyd-eang drwy'r Cwrs Ar-lein Agored Enfawr: ‘Muslims in Britain: Changes and Challenges’.
Y rhestr lawn ar gyfer Cyfres Seminarau 2017 yw:
1 Chwefror yr Athro Nasar Meer
Dinasyddiaeth ryddfrydol, amlddiwylliannaeth a Mwslimiaid yn Ewrop - (19:00, lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1 a 2, Adeilad Morgannwg)
15 Chwefror Riyaz Timol (17:00)
Fforddolion Ysbrydol mewn Oes Seciwlar: Y Tablighi Jama’at ym Mhrydain Gyfoes -
1 Mawrth yr Athro Reina Lewis
Gwleidyddiaeth ffasiwn fodern: yr her o amddiffyn yr hawl i ddewis
15 Mawrth Dr Daniel DeHanas
Colli Ffydd yn y Wladwriaeth? Gwleidyddiaeth Pobl Ifanc Mwslimaidd yn Nwyrain Llundain
29 Mawrth Batool Al-Toma
Troi Pobl at Islam – Yn Effeithio ar Ddynameg Cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain?