Lleoedd am ddim yn yr hanner marathon
26 Ionawr 2017
Unwaith eto, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig lleoedd rhad ac am ddim yn un o ddigwyddiadau hanner marathon mwyaf y DU i gefnogi ei gwaith ymchwil hanfodol.
Rhaid i redwyr addo codi arian ar gyfer gwaith ymchwil pwysig y Brifysgol ym maes iechyd i allu cael lle am ddim yn Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd 2017 ar 1 Hydref.
Bydd pob ceiniog o'r arian y bydd rhedwyr #TeamCardiff y Brifysgol yn ei godi yn mynd tuag at ymchwil ym meysydd canser a niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Roeddwn yn un o'r swyddogion a ddechreuodd y ras y llynedd, ac fe welais yr awyrgylch anhygoel sydd bellach yn rhan o'r ail ras fwyaf o'i math yn y DU.
"Os ydych yn ystyried cymryd rhan yn 2017, beth am godi arian ar gyfer ymchwil hanfodol y Brifysgol ym meysydd canser a niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl..."
"Mae ein hymchwilwyr ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â'r heriau iechyd byd-eang hyn, felly gallai eich cyfraniad wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl."
Rhedodd tua 200 o'r cyhoedd, staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr y Brifysgol ar ran #TeamCardiff y llynedd. Rhaid i redwyr ymrwymo i godi o leiaf £150 i elusen, neu £100 os ydych yn fyfyriwr.
Mae dros 500 o bobl eisoes wedi mynegi diddordeb mewn rhedeg ar ran #TeamCardiff yn 2017, felly buan iawn y caiff lleoedd eu llenwi.
Mae partneriaeth y Brifysgol gyda Hanner Marathon Caerdydd yn ategu'r gwaith a wnaethom fel prif noddwyr Hanner Marathon y Byd IAAF a gynhaliwyd yng Nghaerdydd fis Mawrth y llynedd. Bryd hynny, cafodd miloedd o redwyr y cyfle i gystadlu ochr yn ochr â 200 o athletwyr o'r safon uchaf, gan gynnwys y pencampwr Olympaidd, Mo Farah.
Cymerodd dros 17,000 o redwyr ran yn Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd yn 2016, gan olygu ei fod yr ail hanner marathon mwyaf yn y DU, y tu ôl i'r Great North Run.
Yn y cyfamser, mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd wedi’i gydnabod gan IAAF fel un o rasys ffyrdd mwyaf blaenllaw’r byd.
Hon yw’r unig ras ffordd yn y DU i gael Label Arian clodfawr gan olygu mai dim ond Marathon Llundain, sydd â Label Aur, sydd â statws bwysicach na hi.
Bob blwyddyn, mae IAAF – corff llywodraethu’r byd athletau - yn dyfarnu Labeli Aur, Arian ac Efydd i rasys ffyrdd blaenllaw ar draws y byd.
Cewch wybod rhagor am #TeamCardiff yn y Plas yn Undeb y Myfyrwyr, Plas y Parc, rhwng 1730 a 1930 ar 26 Ionawr. Fel arall, gallwch fynegi diddordeb drwy ddefnyddio'r ddolen.