Yr Arglwydd Puttnam yn dod i Gaerdydd
12 Tachwedd 2012
Caiff pumed Ddarlith Nodedig Hadyn Ellis y Brifysgol ei chynnal ddydd Mercher 21 Tachwedd 2012, ac fe'i traddodir eleni gan y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd David Puttnam CBE FRSA.
Yr Arglwydd David Puttnam yw un o gynhyrchwyr ffilmiau mwyaf nodedig Prydain ac mae ei lwyddiannau arobryn yn cynnwys Chariots of Fire a Bugsy Malone. Mae'r Arglwydd Puttnam yn eistedd ar feinciau Llafur yn Nhŷ'r Arglwyddi ac mae wedi gwneud sylwadau'n gyhoeddus ar ddyfodol rheoleiddio'r cyfryngau a'r byd ar ôl Leveson. Teitl ei ddarlith yw The Lessons of Leveson - The future of media regulation in the internet age.
Bydd y ddarlith broffil uchel hon yn anrhydeddu'r Athro Hadyn Ellis, CBE DSc (1945-2006) cyn Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, a wnaeth gyfraniad sylweddol at sefydlu Caerdydd fel un o'r prifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw yn y DU.
Caiff derbyniad diodydd ei gynnal o 5.30pm yn Adeilad Julian Hodge a bydd y ddarlith yn dechrau am 6.30pm. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae'n rhaid cadw lle. Os hoffech ddod i'r digwyddiad, cysylltwch â Jill Wilmott-Doran erbyn 14 Tachwedd ar CU-Events@caerdydd.ac.uk.
I ganfod mwy am y gyfres o ddarlithoedd, ewch i: www.caerdydd.ac.uk/hadynellislectures/index.html