Effaith ymchwil yn cynyddu yng Nghaerdydd
15 Tachwedd 2012
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill grant pwysig i gynorthwyo gwyddonwyr a pheirianwyr i sicrhau mwy o gydweithio â diwydiant.
Heddiw (15 Tachwedd) cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, gyfanswm buddsoddiad o £60 miliwn mewn prifysgolion yn y DU i helpu gwyddonwyr a pheirianwyr arloesol i greu busnesau llwyddiannus o'u hymchwil, gwella cydweithio diwydiannol a meithrin mwy o entrepreneuriaeth. Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod yr Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang.
Mae Caerdydd yn un o 31 o brifysgolion ledled y DU i gael 'Cyfrif Cyflymu Effaith' a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), prif asiantaeth gyllido'r DU ar gyfer ymchwil wyddonol.
Bydd dyfarniad Caerdydd o £769,975 yn helpu i gynorthwyo'r gwyddonwyr a'r peirianwyr gorau i bontio'r bwlch rhwng y labordy a'r farchnad, yn ogystal â'u helpu i ddod yn entrepreneuriaid gwell.
Dywedodd Vince Cable: "Mae gwyddonwyr y DU ymhlith rhai o'r bobl fwyaf arloesol a chreadigol yn y byd, ond mae angen cymorth arnynt i drosglwyddo eu syniadau gorau i'r farchnad. Gellid gwneud hyn drwy sefydlu busnes bach a chanolig llwyddiannus a arweinir gan dechnoleg, fel Space Syntax yr ymwelais ag ef heddiw.
"Bydd y buddsoddiad rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu ein prifysgolion blaenllaw i ddod yn ganolfannau arloesedd ac entrepreneuriaeth, gan greu llwyddiant masnachol i hybu twf tanwydd."
Mae gan Brifysgol Caerdydd hanes hir a llwyddiannus o drwyddedu a chreu cwmnïau allgynhyrchu. Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf 2012, crëodd y Brifysgol incwm o £1.5 miliwn drwy freindaliadau trwyddedu. Mae cydberthynas Prifysgol Caerdydd â FusionIP Plc yn helpu i greu a chefnogi cwmnïau allgynhyrchu sydd wedi arwain at gyfanswm buddsoddiad o fwy na £23 miliwn ers i'r bartneriaeth gael ei sefydlu yn 2007.
Bydd y cyllid newydd hwn yn ategu'r cam cynnar iawn o droi allbynnau ymchwil yn gynnig masnachol – 'y Cyfnod Tywyll' rhwng syniad ymchwil a'i ddatblygu i gam lle y gallai fod gan gwmni neu gyfalafwr menter ddiddordeb ynddo. Bydd hefyd yn caniatáu i Gaerdydd, er enghraifft, ariannu secondiadau ar gyfer gwyddonwyr a pheirianwyr i dreulio amser mewn amgylchedd gwaith er mwyn iddynt wella eu gwybodaeth a'u sgiliau a dychwelyd i'r labordy gyda dealltwriaeth well o'r ffordd y mae cwmnïau yn gweithredu a'r heriau y maent yn eu hwynebu.
Gan groesawu'r newyddion, dywedodd yr Athro Chris McGuigan, y Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil, Arloesi a Menter: "Mae'r dyfarniad hwn yn rhoi modd i ni ddatblygu dulliau mwy effeithiol o sicrhau bod ein hymchwil ardderchog yn cael effaith yn y byd go iawn. Mae croeso mawr i'r fenter hon gan yr Ysgrifennydd Busnes."
Dywedodd Prif Weithredwr EPSRC yr Athro Dave Delphy: "Caiff yr ymchwil rydym yn ei chefnogi ei chydnabod fel ymchwil eithriadol ar y llwyfan rhyngwladol. Nod y dyfarniadau hyn yw sicrhau newid sylweddol o ran yr effaith y mae hynny'n ei chael ar gymdeithas: creu cyfleoedd busnes newydd sy'n ysgogi twf economaidd, a chreu polisi cyhoeddus gwell, mwy gwybodus."
I gael rhagor o wybodaeth am Gyfrif Cyflymu Effaith Caerdydd, cysylltwch â:
Dr Paul Goodwin, yr Is-adran Ymchwil a Masnachol, ffôn: 029 2087 5464
E-bost: goodwinpa@caerdydd.ac.uk