Atal tsunamis
25 Ionawr 2017
Mae gwaith ymchwil newydd wedi cynnig y gellid atal tsunamis dinistriol rhag cyrraedd arfordiroedd y Ddaear drwy saethu tonnau sain yn y môr dwfn at y corff o ddŵr sydd ar ddod.
Mae Dr Usama Kadri, o Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd, yn credu y gellid achub bywydau pobl yn y pen draw, drwy ddefnyddio tonnau disgyrchiant acwstig yn erbyn tsunamis sy'n cael eu hachosi gan ddaeargrynfeydd, tirlithriadau a digwyddiadau daearyddol pwerus.
Tonnau sain sy'n bodoli'n naturiol yw tonnau disgyrchiant acwstig, ac maent yn symud drwy'r môr dwfn ar gyflymder sain ac yn gallu teithio miloedd o fetrau o dan arwyneb y môr.
Gall tonnau disgyrchiant acwstig fesur degau neu hyd yn oed cannoedd o gilomedrau, a chredir bod rhai mathau o fodau byw nad ydynt yn gallu nofio'n groes i gerrynt, megis plancton, yn dibynnu ar y tonnau i'w helpu i symud, sy'n eu helpu i ddod o hyd i fwyd.
Mewn papur a gyhoeddwyd heddiw yng nghyfnodolyn Heliyon, mae Dr Kadri'n cynnig y gellid, os gallwn ddod o hyd i ffordd o gynhyrchu'r tonnau hyn, eu saethu at tsunami sydd ar ddod. Byddai hyn yn rhyngweithio â'r don mewn modd a fyddai'n lleihau ei hosgled, neu uchder, a gwneud i'w hegni gael ei wasgaru dros ardal fawr.
Erbyn i'r tsunami gyrraedd yr arfordir, noda Dr Kadri, byddai'r ffaith ei bod yn is yn lleihau'r difrod i bobl a'r amgylchedd.
Mae Dr Kadri hefyd yn credu y gellid defnyddio'r broses o saethu tonnau disgyrchiant acwstig at tsunami nes iddi gael ei gwasgaru'n gyfan gwbl.
"Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, mae tsunamis wedi achosi marwolaeth bron i hanner miliwn o bobl, difrod helaeth a hirdymor, effeithiau amgylcheddol enfawr, ac argyfwng ariannol byd-eang," meddai Dr Kadri.
Mae'r tsunami dinistriol a gynhyrchwyd yng Nghefnfor India yn 2004, yn sgil daeargryn a oedd yn mesur 9 ar raddfa Richter, wedi'i chofnodi fel un o'r trychinebau naturiol mwyaf peryglus yn hanes diweddar, ar ôl iddo achosi mwy na 230,000 o farwolaethau mewn 14 o wledydd.
Amcangyfrifwyd bod yr egni a ryddhawyd gan y daeargryn a'r tsunami dilynol dros 1,500 gwaith yn fwy pwerus na bom atomig Hiroshima.
Er mwyn defnyddio tonnau disgyrchiant acwstig i leihau tsunamis, yn gyntaf bydd yn rhaid i beirianwyr ddyfeisio trawsyryddion neu gyweiriaduron amledd cywir iawn, ac mae Dr Kadri'n cyfaddef y byddai hynny'n her.
Gallai hefyd fod yn bosibl defnyddio tonnau disgyrchiant acwstig sy'n cael eu cynhyrchu'n naturiol gan y môr yn ystod digwyddiad daearyddol pwerus, fel daeargryn – hynny yw, defnyddio prosesau naturiol y ddaear yn erbyn eu hunain.
Yn wir, mae Dr Kadri eisoes wedi dangos y gellid defnyddio tonnau disgyrchiant acwstig sy'n digwydd yn naturiol mewn system ar gyfer synhwyro tsunamis yn gynnar drwy osod systemau synhwyro yn y môr dwfn.
Aeth Dr Kadri yn ei flaen: "Yn ymarferol, mae cynhyrchu'r tonnau disgyrchiant acwstig priodol yn her enfawr oherwydd byddai angen llawer iawn o ynni er mwyn iddo ryngweithio'n effeithiol â tsunami...”