Ewch i’r prif gynnwys

Bwyta Byrbrydau a BMI

3 Awst 2012

SNacking and BMI

Mae ymchwil newydd wedi canfod bod bwyta byrbrydau a BMI wedi'u cysylltuâ gweithgarwch yr ymennydd a hunanreolaeth.

Darganfu'r ymchwil, a gyflawnwyd gan academyddion o Brifysgolion Caerwysg, Bryste, a Bangor, bod ymateb 'canolfan wobrwyo' ymennydd unigolyn i luniau o fwyd, yn rhagfynegi faint y byddent yn ei fwyta yn ddiweddarach. Ymddengys bod hyn yn cael mwy o effaith ar faint yr oedden nhw'n ei fwyta yn hytrach na theimladau ymwybodol o chwant bwyd neu faint roedden nhw eisiau'r bwyd.

Roedd ymateb cryf gan yr ymennydd hefyd wedi'u cysylltuâ chynnydd mewn pwysau (BMI), ond dim ond ymhlith unigolion a oedd yn adrodd lefel isel o hunanreolaeth mewn holiadur. Ar gyfer y rheiny a oedd yn adrodd lefelau uchel o hunanreolaeth, roedd ymateb cryfach yr ymennydd yn gysylltiedig â BMI is.

Mae'r astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn NeuroImage, yn ychwanegu at dystiolaeth gynyddol bod gorfwyta a chynnydd mewn pwysau yn gysylltiedig, yn rhannol, â rhan o'r ymennydd sy'n gysylltiedig â chymhelliad a gwobrwyo, o'r enw'r cnewyllyn accumbens. Dangoswyd bod ymatebion yn y rhan hwn o'r ymennydd yn rhagfynegi cynnydd mewn pwysau ymhlith unigolion sydd â phwysau iach ac unigolion gordew, ond dim ond nawr y mae academyddion wedi darganfod bod hyn yn annibynnol i'r teimlad ymwybodol o chwant bwyd, a bod hunanreolaeth yn chwarae rôl allweddol hefyd.

Yn dilyn y canlyniadau hyn, mae academyddion ym Mhrifysgolion Caerwysg a Chaerdydd wedi dechrau cynnal profion ar dechnegau 'hyfforddi'r ymennydd' a gynlluniwyd i ddylanwadu ar giwiau bwyd gydag unigolion sy'n adrodd lefelau isel o hunanreolaeth. Defnyddir profion tebyg i gynorthwyo'r rheiny sy'n gaeth i gamblo neu alcohol.

Dywedodd yr Athro Andrew Lawrence o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, ac aelod o'r tîm ymchwilio, "Mae ein canlyniadau'n hynod ddiddorol, gan eu bod nhw'n dangos bod cryn amrywiaeth ar draws pobl o ran gallu delweddau o fwyd sy'n debyg i'r rheiny a ddefnyddir mewn hysbysebion, i sbarduno gweithgarwch yn rhannau o'r ymennydd sy'n bwysig ar gyfer gwobrwyo, a hybu gorfwyta. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed pan nad ydym yn ymwybodol ohono, sy'n esbonio pam y mae hi'n anodd i rai pobl wrthod bwyd sy'n temtio.

"Mae'n debygol bod sail enetig i ychydig o'r amrywiaeth hwn rhwng unigolion, ac rydym yn archwilio rôl ffactorau genetig mewn ymatebion yr ymennydd i giwiau bwyd ar hyn o bryd. Hefyd, gyda'n cyfaill, yr Athro David Linden o Athrofa Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd,  rydym yn datblygu technegau 'hyfforddi'r ymennydd' ('niwroadborth') i helpu unigolion i 'hyfforddi' eu hymennydd i ddod yn llai ymatebol i giwiau bwyd.

"Dylai dealltwriaeth well o seicoleg a bioleg fanwl archwaeth, a sut y gellir ei reoli, arwain at driniaethau targedig ar gyfer gordewdra ac anhwylderau bwyta"

Dywedodd Dr Natalia Lawrence o Brifysgol Caerwysg, sef yr ymchwilydd arweiniol yn yr ymchwil gwreiddiol a'r astudiaethau newydd: "Mae ein hymchwil yn awgrymu pam y mae rhai unigolion yn fwy tebygol nag eraill o orfwyta a chynyddu eu pwysau pan maent yn gweld delweddau mynych o fyrbrydau a danteithion. Rydym nawr yn datblygu rhaglenni cyfrifiadurol yr ydym yn gobeithio y byddant yn gwrthbwyso effeithiau'r sensitifrwydd uchel hyn i giwiau bwyd trwy hyfforddi'r ymennydd i ymateb yn llai cadarnhaol i'r ciwiau hyn."

Cymerodd 25 o fenywod ifanc, iach â BMI yn amrywio o 17 i 30, ran yn yr astudiaeth. Dewiswyd cyfranogwyr benywaidd, oherwydd bod ymchwil yn dangos bod menywod yn nodweddiadol yn arddangos ymatebion cryfach i giwiau sy'n gysylltiedig â bwyd. Mae newidiadau hormonaidd yn ystod y cylch mislifol yn effeithio ar yr ymateb hwn, felly roedd pob cyfranogwr yn cymryd y bilsen atal cenhedlu geneuol cyfunol monogyfnodol.

Nid oedd y cyfranogwyr wedi bwyta am o leiaf chwe awr er mwyn sicrhau bod chwant bwyd arnynt adeg y sgan a rhoddwyd powlen yn cynnwys 150g (pedwar pecyn a hanner) o greision iddyn nhw i'w fwyta ar ddiwedd yr astudiaeth; rhoddwyd gwybod iddynt y mesurwyd faint o greision yr oeddent wedi'i fwyta wedi hynny.

Defnyddiodd yr ymchwilwyr sganiau MRI i ganfod gweithgarwch ymennydd y cyfranogwyr wrth ddangos delweddau o wrthrychau'r cartref iddynt, a bwyd a oedd yn amrywio o ran dymunoldeb a chynnwys caloriffig. Ar ôl y sgan, rhoddodd y cyfranogwyr radd i'r delweddau o fwyd yn ôl dymunoldeb, a graddio lefelau eu chwant bwyd a'u dyhead am fwyd. Dangosodd y canlyniadau bod ymatebion ymennydd y cyfranogwyr i fwyd (o'i gymharu â gwrthrychau) yn y cnewyllyn accumbens yn rhagfynegi faint o greision y gwnaethant fwyta ar ôl y sgan. Fodd bynnag, roedd graddfeydd y cyfranogwyr eu hunain o chwant bwyd a faint yr oedden nhw'n hoffi ac eisiau'r bwyd, gan gynnwys creision, yn amherthnasol i faint o greision y gwnaethant fwyta.

Gall aelodau o'r cyhoedd sydd eisiau mwy o wybodaeth am astudiaethau hyfforddi'r ymennydd yn y dyfodol, anfon neges e-bost atsnackbuster@gmail.com.

Ariannwyd yr astudiaeth hon gan Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru.

Yr hyn y mae'r astudiaeth hon yn ei ddangos:

·         Mae ymatebion yr ymennydd i ddelweddau o fwyd yn amrywio'n helaeth rhwng unigolion.

·         Mae ymatebion yr ymennydd i ddelweddau o fwyd, ond nid teimladau ymwybodol o chwant bwyd neu'r awydd i fwyta, yn rhagfynegi faint o greision y gwnaethant fwyta wedi hynny.

·         Mae lefelau hunanreolaeth unigolion yn dylanwadu ar a yw ymateb yr ymennydd yn gysylltiedig â BMI uwch neu is.

Yr hyn NAD yw'r astudiaeth hon yn ei ddangos:

·         Mae ymatebion yr ymennydd i giwiau bwyd yn achosi gorfwyta.

·         Bod y cydgysylltiadau a adroddir yma yn wir i bawb - menywod ifanc, iach yn unig oedd yn cymryd rhan.

·         P'un ai a yw ymatebion ein hymennydd a'n lefelau o hunanreolaeth wedi cael eu dysgu neu'n reddfol.

Rhannu’r stori hon