Ysgoloriaethau Dangoor yn hybu darpar wyddonwyr
30 Ionawr 2012
Bydd myfyrwyr sy'n ymuno â Chaerdydd yn 2012-13 yn gallu gwneud cais am un o 49 o ysgoloriaethau sydd ar gael.
Caiff Ysgoloriaethau Eliahou Dangoor eu hariannu gan ddyn busnes blaenllaw a ffodd o Baghdad i Brydain yn y 1960au i ddianc rhag erledigaeth wrth-semitig. Cyfrannodd Dr Naim Dangoor, 97 oed, sy'n bennaeth ar gwmni eiddo llwyddiannus, £3 miliwn i sefydlu Ysgoloriaethau Eliahou Dangoor - er anrhydedd i'w ddiweddar dad - ym mhrifysgolion Grŵp Russell, gan gynnwys Caerdydd, a phrifysgolion Grŵp 1994.
Bu Dr Dangoor, a dderbyniodd CBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2012, yn astudio peirianneg yn Llundain, lle datblygodd ymrwymiad gydol oes i achosion addysgol, yn enwedig gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Mae myfyrwyr yng Nghaerdydd ar hyn o bryd eisoes yn elwa ar yr ysgoloriaethau, sy'n cael eu dyfarnu ar sail teilyngdod, ac, mewn rhai achosion, i fyfyrwyr sydd wedi rhagori mewn ysgolion lle mae cyflawnwyr uchel yn brin, neu sydd wedi goresgyn rhwystrau megis salwch ac anabledd. Mae myfyrwyr amser llawn yn derbyn £1,000 ac mae myfyrwyr rhan-amser yn cael £500.
Dywedodd Dave Roylance, sy'n bennaeth recriwtio israddedigion Prifysgol Caerdydd: "Credwn yn gryf y dylai pawb gael mynediad i addysg Prifysgol Caerdydd, waeth beth yw eu hamgylchiadau. Mae Ysgoloriaethau Dangoor eisoes wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth gefnogi nifer fawr o'n myfyrwyr gyda'u hastudiaethau. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu grŵp newydd o Ysgolorion Dangoor talentog i Gaerdydd yn yr hydref."
Cafodd rhodd Dr Dangoor ei chroesawu gan Weinidogion a'r Grŵp Russell o brifysgolion blaenllaw.
Dywedodd y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, David Willetts AS: "Mae cyllid cyfatebol gan y llywodraeth wedi galluogi Ysgoloriaethau Dangoor i helpu hyd yn oed mwy o fyfyrwyr. Bydd yr arolwg ar ddyngarwch mewn addysg uwch o dan arweiniad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr a gyhoeddais yr wythnos ddiwethaf yn archwilio ffyrdd o annog dyngarwyr eraill i ddilyn esiampl Dr Dangoor.
"Mae'n hanfodol i ragolygon pobl ifanc yn y dyfodol, a llwyddiant y busnes yn y DU, ein bod yn annog mwy o bobl i astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg mewn ysgolion a phrifysgolion.
"Cafodd Dr Dangoor brofiad a newidiodd ei fywyd wrth astudio STEM mewn prifysgol yn y DU. Nawr mae'n gwneud hyn yn fwy deniadol fyth i genhedlaeth newydd o fyfyrwyr."
Dywedodd Dr Wendy Piatt, Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp Russell o brifysgolion blaenllaw, sydd yn cynnwys Manceinion: "Mae Ysgoloriaethau Eliahou Dangoor yn arf pwerus yn ein harfogaeth wrth i ni frwydro fel y gall myfyrwyr gyflawni eu potensial. Mynd i brifysgol ac astudio pwnc STEM yw un o'r buddsoddiadau gorau y gall unrhyw berson ifanc disglair ei wneud.
"Mae Ysgoloriaethau Eliahou Dangoor yn enghraifft berffaith o weledigaeth a haelioni dyngarwr yn cryfhau ymdrechion ein prifysgolion i ddenu'r myfyrwyr gorau o bob cefndir i astudio pynciau allweddol fel gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg.
"Mae ein prifysgolion eisoes yn buddsoddi degau o filiynau bob blwyddyn mewn ysgoloriaethau a bwrsariaethau, a bydd Ysgoloriaethau Dangoor yn gwneud pynciau STEM yn arbennig o ddeniadol i'r myfyrwyr gorau. Beth bynnag eich cefndir, os ydych chi'n ddigon da i gael eich derbyn gan brifysgol Grŵp Russell, byddwch chi'n gallu fforddio mynd yno."
Dywedodd Dr Naim Dangoor CBE, sy'n ariannu Ysgoloriaethau Eliahou Dangoor: "Cafodd fy nheulu a minnau loches yn y wlad hon pan fu'n rhaid i ni adael Irac. Mae'n fraint i mi fod mewn sefyllfa i roi rhywbeth yn ôl."