100 Gorau Stonewall
19 Ionawr 2017
Prifysgol Caerdydd yw'r brifysgol orau yn y DU o ran ei hymrwymiad i bobl LGBT+, yn ôl un o arolygon cyflogaeth mwyaf y DU.
Mae 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn archwiliad blynyddol o ddiwylliant y gweithle ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, ac mae'n cynnwys y cyflogwyr sy'n perfformio orau ym Mynegai Stonewall ar gyfer Cydraddoldeb yn y Gweithle.
Mae'r Brifysgol yn safle 23 yn y rhestr o 100 o gyflogwyr – yn uwch na 11 o brifysgolion eraill sydd wedi eu cynnwys yn y Mynegai.
Hon yw'r seithfed flwyddyn yn olynol y mae'r Brifysgol wedi cael ei chynnwys yn y Mynegai, i gydnabod ei hymrwymiad i gydraddoldeb ar gyfer staff lesbiaidd, hoyw, a deurywiol.
Dywedodd Karen Cooke, Cadeirydd Enfys, y rhwydwaith ar gyfer staff LGBT+: "100 Gorau Stonewall yw un o'r meincnodau yr ydym yn eu defnyddio i sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i ymrwymo i gydraddoldeb LGBT+..."
“Er i ni ostwng tri lle eleni, mae'r ffaith i ni gyrraedd chwarter uchaf y Mynegai yn dangos faint o waith rydym wedi'i wneud."
"Rydym yn gwybod bod rhagor o waith i'w wneud o hyd, ac mewn sefydliad o dros 6,000 o aelodau staff mae digonedd i'w wneud, yn enwedig gyda'n cydweithwyr deurywiol a thrawsrywiol, i greu'r amgylchedd gorau ar gyfer staff a myfyrwyr LGBT+."
Dywedodd y Rhag Is-Ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae'r ffaith ein bod ni'n dal i fod ar restr 100 Gorau Stonewall yn dangos pa mor galed y mae llawer o bobl wedi gweithio i godi proffil cydraddoldeb LGBT+ ar draws y Brifysgol..."
Y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yw'r prif ddull y gall cyflogwyr yng ngwledydd Prydain ei ddefnyddio i fesur eu hymdrechion i fynd i'r afael â gwahaniaethu, ac i greu gweithleoedd cynhwysol ar gyfer gweithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Cyflwynodd dros 430 o gyflogwyr geisiadau i Fynegai 2017, ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, a'r trydydd sector. Mae wedi'i seilio ar amrywiaeth o ddangosyddion allweddol sy'n cynnwys arolwg cyfrinachol o weithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol, gyda mwy na 90,000 o ymatebion.
Dywedodd Duncan Bradshaw, Cyfarwyddwr Rhaglenni Aelodaeth, Stonewall: "Mae Prifysgol Caerdydd a phawb sydd wedi cyrraedd rhestr 100 Cyflogwr Gorau eleni wedi cyflawni gwaith rhagorol, ac maen nhw'n sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant yn chwarae rhan flaenllaw yn eu gwaith. Roedden ni wrth ein bodd i gael 439 o geisiadau ar gyfer y Mynegai eleni, un o'r blynyddoedd mwyaf cystadleuol hyd yma, a hoffwn ddiolch i bob un sefydliad a gymerodd ran..."