Academyddion yn ennill grant mawr gan ESRC
19 Ionawr 2017
Mae tîm o academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd wedi ennill grant uchel ei bri, gwerth £330,000 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Maen nhw hefyd wedi cael 2 miliwn RMB gan Sefydliad Cenedlaethol Gwyddoniaeth Naturiol China (NSFC).
Ddechrau 2016, cyhoeddodd ESRC a NSFC eu bod yn chwilio am brosiectau cydweithredol a fyddai'n 'cyfrannu at ddatblygiad economaidd a lles yn Tsieina.' Daeth yr alwad am brosiectau gan Gronfa Newton ESRC, sy'n ymrwymo i ddatblygu partneriaethau ymchwil dwyochrol a gwella'r gymuned ymchwil fyd-eang.'
Ym mis Mehefin 2016, cafodd yr Athro Kent Matthews, o adran Economeg Ysgol Busnes Caerdydd, sydd hefyd yn brif ymchwilydd ar gyfer y prosiect ymchwil newydd, ei wahodd i Shanghai ar gyfer digwyddiad rhyngweithio. Roedd hyn yn gyfle i ddarpar gynigwyr ymgynghori â darpar bartneriaid ymchwil Tsieineaidd cyn iddynt baratoi a chyflwyno eu cynigion terfynol erbyn diwedd Gorffennaf 2016.
Ym mis Tachwedd 2016, dyfarnwyd y grant ar gyfer y prosiect. Enw'r prosiect yw Shadow Banking and the Chinese Economy: A Micro to Macro Modelling Framework. Partner Ysgol Busnes Caerdydd yn Tsieina ar gyfer y prosiect ymchwil yw'r Ysgol Rheolaeth yn Fudan, Prifysgol Fudan (Shanghai), sydd yn safle 43 ar Restr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd.
£330,000 yw gwerth y grant dros dair blynedd (gyda £265,000 yn cael ei rhoi gan ESRC), tra bod grant gan NSFC sy'n gyfwerth â 2 miliwn RMB (tua £230,000) wedi ei rhoi i'r cyd-ymchwilydd yn Fudan, Dr Zhiguo Xiao.
Dywedodd yr Athro Matthews wrth sôn am y prosiect: "Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ESRC a NSFC, un o'r cyrff ariannu mwyaf eu bri yn Tsieina. Maen nhw wedi cydnabod gwerth ac effaith bosibl y prosiect ymchwil newydd hwn fydd yn edrych ar systemau ariannol Tsieina.
"Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd berthnasau sefydlog a chryf ar draws Tsieina, ac rydym yn falch o greu'r bartneriaeth hon â'r Ysgol Rheolaeth yn Fudan. Mae prosiectau cydweithredol fel hyn yn bwysig, ac rydym yn edrych ymlaen at gyfuno arbenigedd a phrofiad ein ymchwilwyr yn y DU ac yn Tsieina."
Yn rhan o'r tîm yn y DU mae'r Athro Matthews, a chyd-ymchwilwyr o Ysgol Busnes Caerdydd, Dr David Meenagh, yr Athro Kul Luintel a'r Athro Patrick Minford ochr yn ochr â Dr Tianshu Zhao (Prifysgol Birmingham) a'r Athro Akos Valentinyi (Prifysgol Manceinion). Cychwynnodd y prosiect ar 1 Ionawr 2017.