Dathlu Rhagoriaeth
3 Rhagfyr 2012
Mae Nick Hinsley a Tony Lloyd yn ddau borthor yn yr Ysgol Gerdd. Mae Nick wedi ymgymryd â'r rôl ers 21 mlynedd, a Tony ers 12 mlynedd. Drwy gydol yr amser hynny maent wedi profi i fod yn aelodau integredig o'r Ysgol Gerdd i'r fath raddau nes bod eu henwebwr yn dweud "mewn llawer o ffyrdd nhw yw'r Ysgol Gerdd".
Mae Nick a Tony yn ddau aelod o staff y Brifysgol sy'n derbyn cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad a'u cyraeddiadau yng Ngwobrau cyntaf Dathlu Rhagoriaeth.
Dyfarnwyd y wobr gan y Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure mewn seremoni ar 23 Hydref yn Neuadd Aberdâr. Rhoddwyd gwobrau mewn 13 categori gan wobrwyo aelodau unigol, cyflawniadau tîm, a chydweithredu mewn ymchwil, dysgu ac addysgu, arloesedd ac ymgysylltu, a'r modd mae'r Brifysgol yn gweithredu.
Rhoddwyd gwobrau i gyfanswm o 27 o unigolion a grwpiau, a phob un ohonynt wedi cael eu henwebu gan eu cydweithwyr am fynd gam ymhellach na'r disgwyl ac am ddangos ymrwymiad a chyfraniad rhagorol i'r Brifysgol.
Wrth siarad am y seremoni, dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure: "Roedd yn bleser o'r mwyaf i arwain noson wobrwyo gyntaf Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd. Cafodd dros 60 o aelodau a grwpiau staff eu henwebu ar gyfer y Gwobrau ac rydym yn eu llongyfarch i gyd. Maent yn cynrychioli'r safon uchaf o ran ymdrech, rhagoriaeth, arloesedd ac arfer dda. Mae eu cyfraniadau sylweddol parhaus yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi'n fawr."
Dewch i gyfarfod â rhai o'r enillwyr a deall pam bod eu cydweithwyr wedi eu henwebu.
Dr Elizabeth Chadwick, yr Ysgol Fiowyddoniaeth, y dyfarnwyd gwobr yng nghategori Gwella Profiad y Myfyriwr yn Aruthrol iddi
Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae Dr Liz Chadwick, Ysgol Fiowyddorau wedi sefydlu Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, prosiect ymchwil a monitro a gynhaliwyd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, fel tîm ymchwil a gydnabuwyd yn rhyngwladol. Yn ganolog i'w holl weithgareddau y mae cymhwyso addysgu a arweinir gan ymchwil, cynyddu cyflogadwyedd myfyrwyr israddedig a meithrin datblygiad gyrfa ymchwilwyr ifanc. Mae'r hyfforddiant ymchwil 'tu ôl i'r llen' y mae hi'n ei ddarparu yn rhoi amgylchedd croesawgar heb risg i fyfyrwyr er mwyn iddynt ennill sgiliau ymarferol rhyng-ddisgyblaeth. Mae hyn yn gwella hyder myfyrwyr yn fawr, yn meithrin brwdfrydedd ar gyfer gwyddoniaeth ac yn darparu lle ar gyfer creadigrwydd ac ymchwil sydd wedi mynd y tu hwnt i'r Ysgol Fiowyddoniaeth.
Oherwydd poblogrwydd gweithgareddau'r Prosiect Dyfrgwn, mae Liz eisoes wedi rhoi cymorth i dros 100 o fyfyrwyr gwirfoddol ac mae milfeddygon ac ymgynghorwyr yn ymweld â hi'n aml. Mae ganddi hi allu naturiol i ennyn cyffro am ei gwaith mewn unigolion ac yn aml ei chyflwyniad hi sydd fwyaf poblogaidd ymhlith plant ysgol.
Tra roedd hi ar ei chyfnod mamolaeth, fe wnaeth Liz barhau â gwaith y Prosiect Dyfrgwn gan osod esiampl berffaith i ferched ym maes gwyddoniaeth a dangos sut mae'r Brifysgol yn cefnogi egwyddorion Athena Swan.
Cafodd ei henwebu ar gyfer y wobr hon gan nifer o staff a ddywedodd eu bod "wedi syfrdanu gan ymrwymiad diffwdan Dr Chadwick. Rydym ni i gyd yn elwa'n aruthrol ar ei gwaith, ond yn fwyaf pwysig mae hi'n creu amgylchedd gwaith hapus a llwyddiannus i bawb".
Derbyniodd Nick Hinsley a Tony Lloyd o'r Ysgol Gerdd, wobr yng nghategori Cynnal Rhagoriaeth.
Cafodd Nick Hinsley a Tony Lloyd, dau borthor o'r Ysgol Gerdd, eu henwebu ar y cyd ar gyfer y wobr hon.
Ynghyd â chyflawni eu dyletswyddau diogelwch a'u dyletswyddau yn y dderbynfa, mae ganddynt ddiddordeb brwd yn y pwnc gan sicrhau bod gweithgareddau yn rhedeg yn esmwyth mewn amrywiaeth o adrannau, digwyddiadau'r Ysgol a'r Brifysgol, gan roi cefnogaeth a chlust gyfeillgar i fyfyrwyr, a datrys problemau ystadau a gofod yn greadigol.
Efallai mai un o arwyddion mwyaf pwysig o gyfraniad Nick a Tony yw'r parch mawr sydd gan fyfyrwyr cerdd tuag atynt. Mae nifer y cardiau diolch yng nghaban y porthorion yn brawf o hyn, ac mae sylwadau arnynt fel y rhai canlynol yn dweud y cyfan:
"Nick a Tony, rydych chi'n wych! Roedd yn bleser cerdded i mewn i fynediad yr Ysgol Gerdd a'ch gweld chi'ch dau - byddech chi bob amser yn llwyddo i roi gwen ar fy wyneb."
"Nick a Tony, rydych chi'n anhygoel!"
"Diolch yn fawr iawn am bopeth - bob amser yn datrys problemau ac yn ein cyfarch gyda hiwmor di-derfyn".
Mae Nick a Tony hefyd yn rhoi cefnogaeth aruthrol i staff academaidd, staff gweinyddol a staff sy'n gweithio yn llyfrgell yr Ysgol, yn aml yn rhagweld problemau cyn iddynt ddod i'r wyneb er mwyn sicrhau bod pethau'n rhedeg yn llyfn. Ynghyd â'u gwaith diflino y tu cefn llwyfan, nhw yw wyneb cyhoeddus yr Ysgol yn ystod cyngherddau cyhoeddus a phan fydd grwpiau, myfyrwyr o ysgolion eraill ac academyddion gwadd yn ymweld. Maent yn gweithio'n ddiflino er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn cael profiad da.
Gofynnwyd i grŵp Facebook yr Ysgol pam mai Nick a Tony yw'r porthorion gorau ar y campws. Yr ymateb: "Am mai Nick a Tony ydyn nhw! Dau ddyn annwyl, cyfeillgar a direidus! Byddai'r Adran ar ei cholled hebddynt!"
Rhoddwyd gwobr i'r Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-Ganghellor, Staff ac Amrywiaeth yng nghategori Cyflawniad Gydol-oes
Disgrifir yr Athro Terry Threadgold, Is-Ganghellor Staff ac Amrywiaeth gan ei henwebwr fel "y math o arweinydd go iawn a fydd yn gwneud i chi edrych yn ôl dros eich gyrfa a bod yn ddiolchgar i chi gael y cyfle i gydweithio â hi."
Mae gyrfa Terry yn fyd-eang. Roedd hi'n fyfyriwr israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Sydney cyn cael ei phenodi i'w swydd darlithio gyntaf yn yr Adran Saesneg. Tra bu hi yn Sydney, fe weithiodd hi gydag eraill er mwyn sefydlu'r Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Menywod ac Astudiaethau Perfformiad, ac roedd hi'n Bennaeth Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Iaith, cyn iddi adael Sydney i fynd i Brifysgol Monash, Victoria yn 1993. Yno roedd hi'n Bennaeth yr Adran Saesneg, yn Ddirprwy Ddeon Astudiaethau Graddedig, Cyfarwyddwr yr Ysgol Graddedigion, ac yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau.
Roedd gwaith ymchwil Terry yn Awstralia yn cynnwys gwaith ar ferched a heneiddio, ar risg, cyfathrebu a'r defnydd o chwistrellu cyffuriau. Mae ei llyfr, Feminist Poetics: Poeisis, Performance, Histories, yn astudiaeth o hil, cenedl a hunaniaeth yn Awstralia, yn parhau yn destun allweddol ym maes astudiaethau diwylliannol ffeministiaeth a dadansoddiad disgwrs beirniadol.
Ymunodd Terry â Phrifysgol Caerdydd yn 1999 fel Athro Ymchwil, ac yn ddiweddarach cafodd swydd Pennaeth Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Caerdydd, rhwng 2003 a 2007. Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddwyd ei llyfr mwyaf diweddar, Shoot First and Ask Questions Later: Media Coverage of the 2003 Iraq War. Mae hi hefyd wedi bod yn Bennaeth yr Ysgol Saesneg, yr Ysgol Cyfathrebu ac Athroniaeth a Hanes, a'r Ysgol Archaeoleg a Chrefydd - yr unig ferch i fod yn Bennaeth tair Ysgol yng Nghaerdydd.
Yn 2007, penodwyd Terry yn Ddirprwy Is-Ganghellor Staff ac Amrywiaeth. Mae hi wedi arwain prosiectau sydd wedi cyfrannu'n helaeth at y Brifysgol, gan gynnwys arwain y gwaith o ddatblygu Model Llwyth Gwaith y Brifysgol, creu model llwybr gyrfa i staff academaidd, yr holl agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws y Brifysgol gan gynnwys annog rhwydweithiau staff, cydnabyddiaeth ym Mynegai Cydraddoldeb Gweithle Stonewall, cyflawniad Athena Swan a datblygu rôl merched mewn pynciau STEM, pynciau drwy waith adeiladu hyder a gwaith penodol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn perthynas â REF 2014. Terry hefyd oedd aelod arweiniol yr uwch staff a sicrhaodd fod y Brifysgol yn llwyddo i ennill cydnabyddiaeth Buddsoddwyr mewn Pobl a thrwy'r gwaith hynny yn cyfrannu at Fframwaith Arweinyddiaeth a Rheoli a rhaglenni datblygiad staff.
Mae hyn oll ond yn cyffwrdd â chyfoeth gwybodaeth a rhagoriaeth a chyflawniadau'r Athro Threadgold yn ystod ei gyrfa. Yma yng Nghaerdydd mae hi wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod gan staff a myfyrwyr amgylchedd gwaith positif a'u bod yn hapus yn y gweithle. Ac wrth gwrs, hi hefyd a gafodd y syniad am y cynllun Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth hwn, ac rydym wrth ein bodd ei bod wedi cael ei henwebu a'i chynnwys ar y rhestr fer.