Deall ffermwyr cynnar
24 Ionawr 2012
Bydd arbenigwyr o fydoedd gwyddoniaeth, archaeoleg ac anthropoleg yn dod at ei gilydd mewn cynhadledd yng Nghaerdydd i drafod dulliau o weithio ar y cyd wrth astudio Cynhanes.
Yn draddodiadol, ystyrir gwyddoniaeth a chelf yn llinellau ymholi ar wahân gan archaeolegwyr, gyda phob disgyblaeth yn chwilio am atebion i gwestiynau gwahanol. Fodd bynnag, mae'r ddau ddegawd diwethaf wedi gweld cynnydd yn y nifer o brosiectau ffrwythlon ar y cyd rhwng y ddwy. Ochr yn ochr â hyn bu sylweddoli cynyddol y gall cyfuno bydoedd celf a gwyddoniaeth gynnig mewnwelediadau dwys.
Wedi ei threfnu gan yr Athro Alasdair Whittle a Dr Penny Bickle o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, bydd y Gynhadledd Ffermwyr Cynnar yn gweld prif siaradwyr o Ewrop a Gogledd America yn ymdrin â phedair thema ar ddiwylliannau ffermio cynnar Ewrop – materoliaethau (rhan offer a gwrthrychau); ffyrdd o fyw (ymchwilio i fywgraffiadau personol); cynhaliaeth (rhan ffyrdd bwyd); a pherthnasoedd a disgyniad (modelau rhyngweithredu cymdeithasol).
Mae a wnelo'r pynciau ag ystod eang o arbenigeddau o'r gorffennol cynhanesyddol at ddiwylliannau dynol a methodolegau gwahanol i bob un, gan gynnig ffynhonnell gyfoethog ar gyfer trafodaeth am ddarganfyddiadau diweddar o ran modelau ffermio cyfredol.
Dywedodd yr Athro Alasdair Whittle: "Mae Ffermwyr Cynnar yn dod ag ymchwil hanfodol newydd at ei gilydd sydd wedi gorfodi ailystyried rhagdybiaethau a fu am hir am y trawsnewid Mesolithig-Neolithig, trefniant cymdeithasol y ffermwyr cynharaf a bywgraffiadau unigol o unigolion o'r gorffennol.
"Bydd y gynhadledd yn cynnig fforwm hanfodol ac amserol ar gyfer deialog ar ganlyniadau a methodoleg newydd a bydd yn annog cydweithredu rhwng arbenigwyr gwahanol. Mae ganddi'r potensial i gael effaith gadarnhaol ar gyfeiriad ymchwil yn y dyfodol."
Yn dilyn y gynhadledd, bydd yr Athro Whittle a Dr Bickle yn cyhoeddi adolygiad a fydd yn cynnwys y papurau a gyflwynir yn yr achlysur, yn ogystal â chyfraniadau dethol eraill.
Ychwanegodd yr Athro Whittle: "Bydd ein cyhoeddiad yn rhoi mewnwelediad gwirioneddol i gyflawniadau diweddar mewn ymchwil ar gynhanes yn ogystal â hyrwyddo arfer gorau wrth gymhwyso methodolegau newydd."
Cynhelir y Gynhadledd Ffermwyr Cynnar dros dridiau rhwng 15 a 17 Mai 2012. Mae mwy o wybodaeth am y gynhadledd a thocynnau ar gael yma. Ariennir y Gynhadledd Ffermwyr Cynnar gan yr Academi Brydeinig.