Defnyddiau newydd ar gyfer isgynhyrchion diesel
24 Ionawr 2012
Gallai proses gatalytig newydd gan Sefydliad Catalysis Caerdydd ryddhau ystod o isgynhyrchion defnyddiol newydd yn sgil cynhyrchu tanwydd diesel.
Mae cynhyrchudiesel disylffwr o nwy naturiol a biomas yn fwy cynaliadwy yn cynyddu. Fodd bynnag, mae gan yr isgynhyrchion, sef hydrocarbonau megis decan ac alcanau gwerth isel eraill, ond ychydig o ddefnydd ymarferol.
Bellach mae darganfyddiad gan y Sefydliad, sy'n rhan o'r Ysgol Cemeg, wedi dod o hyd i lwybr posibl ar gyfer uwchraddio'r isgynhyrchion hyn i gemegau sy'n fwy defnyddiol.
Yn y gorffennol, bu adweithiau synthetig sy'n dechrau o alcanau megis decan yn hynod o anodd. Mae tueddiad iddynt naill ai gorddadhydrogenu neu hylosgi, yn dibynnu ar a yw ocsigen yn rhan o'r adwaith. Erbyn hyn mae tîm o Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi rhoi gwybod am ddefnydd catalydd metel er mwyn trawsnewid decan i ystod o gemegau aromatig wedi'u hocsigeneiddio.
Daeth yr arloesiad, a gyhoeddwyd yn Nature Chemistry, pan fwydodd y tîm gymysgedd nwy o ddecan ac awyr drwy gatalydd haearn molybdad. Ar dymereddau uwch, ffurfiodd yr adwaith ddŵr a decen, a ddefnyddir wrth gynhyrchu glanedyddion. Fodd bynnag, ar dymereddau is, cymerodd yr adwaith lwybr arall i greu moleciwlau aromatig wedi'u hocsigeneiddio. Roedd hyn yn cynnwys anhydrid ffthalig, a ddefnyddir yn y diwydiant lliwio, a chwmarin sy'n helpu wrth gynhyrchu cyffuriau gwrthgeulo.
Dywedodd yr Athro Stan Golunski, aelod o dîm y Sefydliad sy'n gyfrifol am y darganfyddiad: "Mae'r darganfyddiad hwn yn torri tir newydd oherwydd ei fod yn awgrymu defnydd ocsigen nad yw eto wedi trawsnewid yn llwyr o'i ffurf foleciwlaidd i'w ffurf ïonig. Mae hyn yn gwrthdroi barn a ddelir yn eang fod y math hwn o ocsigen yn rhy adweithiol i ffurfio unrhyw beth ond carbon monocsid a charbon deuocsid mewn adweithiau gyda hydrocarbonau."
"Er y bu'r cynnydd o ran cynhyrchu diesel disylffwr yn beth cadarnhaol, bydd y gorlawnder o ran isgynhyrchion gwerth isel yn mynd yn broblem. Rydym yn gobeithio y bydd ein proses newydd yn arwain at lai o wastraff a chreu rhagor o gemegau mwy defnyddiol ar gyfer ystod o ddiwydiannau."