Angen gwella gwasanaethau iechyd plant yn y DU
18 Ionawr 2017
Mae astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod sawl maes gofal sylfaenol lle mae angen gwelliannau er mwyn lleihau niwed i blant sâl.
Fel rhan o'r astudiaeth, a gynhaliwyd gan ddefnyddio data o System Adrodd a Dysgu Genedlaethol Cymru a Lloegr (NRLS), dadansoddwyd mwy na 2,000 o adroddiadau digwyddiad dros gyfnod o ddeng mlynedd (2003-2013) a oedd yn ymwneud â phlant sâl yng ngofal sylfaenol yng Nghymru a Lloegr, a chanfuwyd mai cyfathrebu gwael oedd yn sail i'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau lle cafodd plant eu niweidio.
Dywedodd Dr Philippa Rees, un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd: "Cydnabyddir yn eang bod ansawdd gwasanaethau iechyd plant yn y DU yn llusgo'n bell ar ôl rhai mewn gwledydd cyfagos yn Ewrop. Ym maes gofal sylfaenol – y cam cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o blant sâl – mae cynnydd wedi bod yn arbennig o araf..."
"Gyda lwc, yn y pen draw bydd yr astudiaeth hon yn helpu i ffocysu ac ysbrydoli ymdrechion hir-ddisgwyliedig yn y maes hwn, a hynny ar lefel leol a chenedlaethol, ac yn ein helpu i weithio yn ôl un o egwyddorion sylfaenol moeseg feddygol – yn gyntaf, peidiwch â gwneud niwed."
Dyma ganfyddiadau'r ymchwilwyr:
- disgrifiodd tua 30% o'r holl adroddiadau ryw lefel o niwed i blentyn
- roedd adroddiadau rheolaidd o gamgymeriadau meddyginiaeth mewn fferyllfeydd yn y gymuned
- roedd damweiniau yn ymwneud â diagnosis, asesu ac atgyfeirio plant sâl yn arbennig o niweidiol, gyda deg o farwolaethau, 15 achos o niwed difrifol, a 69 achos o niwed cymedrol
- roedd cyfathrebu gwael yn sail i lawer o'r digwyddiadau a wnaeth arwain at niwed i blant
Roedd y ffaith i rai problemau penodol godi mor aml yn pwyntio'n glir at feysydd y mae angen eu gwella. Roedd yr argymhellion ar gyfer gwelliannau'n cynnwys:
- systemau mwy dibynadwy ar gyfer dosbarthu meddyginiaethau mewn fferyllfeydd cymunedol
- gwerthusiad cadarn o effeithiolrwydd a diogelwch GIG 111 ymhlith y boblogaeth bediatrig
- hyfforddiant pediatrig gorfodol ar gyfer yr holl hyfforddeion ymarfer cyffredinol
- datblygu'r gallu i wella ymhlith staff y GIG ym mhob proffesiwn
Dywedodd Dr Colin Powell, Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phediatregydd yn Ysbyty Plant Cymru Noah's Ark: "Ar hyn o bryd mae problemau sylweddol o ran sicrhau bod gan yr holl feddygon teulu dan hyfforddiant gyfle i gwblhau cyfnod o chwe mis dan hyfforddiant mewn uned cleifion mewnol pediatrig acíwt..."
Ychwanegodd Dr Andrew Carson-Stevens, Arweinydd Ymchwil Diogelwch Cleifion yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn mynd i'r gwaith bob dydd i wneud eu gorau glas dros gleifion. Mae'r astudiaeth hon wedi helpu i nodi'r meysydd lle gallwn ganolbwyntio ein hymdrechion i wella'r system, er mwyn sicrhau gofal o safon, a diogelwch plant yng ngofal sylfaenol..."
"Bydd y dulliau hynny i ddatblygu systemau gofal iechyd mwy diogel, sydd wedi hen ennill eu plwyf, yn helpu i gyflymu ymdrechion i ddarparu gofal rhagorol i bob plentyn, bob tro."
Mae canlyniadau'r astudiaeth 'Patient Safety Incidents Involving Sick Children in Primary Care in England and Wales: A Mixed Methods Analysis’ wedi eu cyhoeddi yn Plos Medicine (Rees P et al, 2017).