Anrhydeddu nyrsys
5 Rhagfyr 2012
Mae myfyrwyr nyrsio presennol a blaenorol Prifysgol Caerdydd wedi cael eu cydnabod am eu harfer gorau a'r lefel eithriadol o ofal y maent yn ei darparu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae Gwobrau Nyrs y Flwyddyn gyntaf erioed Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi dathlu nyrsys sy'n gwneud cyfraniad sylweddol at ofal cleifion a'r proffesiwn nyrsio.
Enillydd y wobr Nyrs Glinigol Arbenigol oedd Nicola West, myfyrwraig PhD ran-amser yn yr Ysgol Nyrsio ac Astudiaethau Bydwreigiaeth. Roedd cyfanswm o chwe chyn-fyfyriwr o'r Ysgol wedi eu henwebu neu wedi derbyn gwobrau am eu gwaith.
Mae Nicola wedi arwain gofal y fron yng Nghaerdydd ers iddi ymgymryd â swydd Uwch Nyrs Gofal y Fron ym 1991. Mae hi wedi datblygu'r gwasanaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf ac mae ei harbenigedd yn cael ei werthfawrogi a'i gydnabod yn eang trwy alwadau i gyfrannu at ddatblygu polisi Cymru gyfan.
Wrth siarad am ei gwobr, meddai Nicola: "Roeddwn wrth fy modd i dderbyn gwobr Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru ar gyfer Nyrs Glinigol Arbenigol. Mae'n deimlad gwych i gael fy nghydnabod gan nyrsys eraill a'm henwebu ar gyfer gwobr mor fawreddog. Roedd yn noson wirioneddol gofiadwy ac yn gyfle gwych i ddathlu llwyddiant nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru."
Louise Poley, cyn-fyfyrwraig MSc yng Nghaerdydd, a enillodd y wobr Nyrs y Flwyddyn yng ngwobrau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Disgrifiwyd Louise gan y panel dyfarnu fel 'hyrwyddwr yn ei maes', ar ôl arwain prosiect amlasiantaethol i gynnig gwasanaethau i bobl ddigartref yn eu hamgylchedd eu hunain, gan sicrhau eu bod yn derbyn gofal iechyd proffesiynol ac amserol.
Meddai'r Athro Sheila Hunt, Deon yr Ysgol: "Mae Louise a Nicola yn nyrsys gwych ac ymroddedig sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau eu cleifion, ac rwy'n falch iawn bod eu gwaith caled wedi'i gydnabod mewn digwyddiad mor fawreddog. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod nyrsys sy'n gallu cyflawni cymaint wedi astudio yma ac wedi rhannu eu harbenigedd yn Ysgol Nyrsio ac Astudiaethau Bydwreigiaeth Caerdydd."