Y Brifysgol yn ymuno â phartneriaid ym myd diwydiant i ddatblygu'r uwchgyfrifiadur 'cyntaf o'i fath'
17 Ionawr 2017
Mae Cynghrair GW4, ynghyd â Cray Inc. a'r Swyddfa Dywydd, wedi cael £3m gan EPSRC i gyflenwi gwasanaeth cyfrifiadura perfformiad uchel Haen 2 newydd i wyddonwyr sy'n gweithio yn y DU.
Bydd y gwasanaeth newydd ac unigryw hwn yn cynnig llu o saernïaethau uwch o fewn yr un system er mwyn gallu gwerthuso a chymharu ar draws amrywiaeth eang o lwyfannau caledwedd. Bydd y gwasanaeth newydd ac unigryw hwn, a elwir yn ‘Isambard’ ar ôl y peiriannydd enwog o oes Victoria Isambard Kingdom Brunel, yn cynnig llu o gynlluniau pensaernïaeth uwch o fewn yr un system er mwyn gallu gwerthuso a chymharu amrywiaeth eang o lwyfannau caledwedd.
Bydd y tîm yn cyflwyno'r Isambard prosiect yng nghynhadledd cyfrifiadura perfformiad uchel Mont-Blanc yn Barcelona heddiw, gerbron cynulleidfa o academyddion blaenllaw a sefydliadau sy'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd.
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous ym maes cyfrifiadura perfformiad uchel," meddai'r Athro Simon McIntosh-Smith, arweinydd y prosiect ac Athro Cyfrifiadura Perfformiad Uchel ym Mhrifysgol Bryste. "Mae'r dewis sydd gan wyddonwyr o ran y saernïaeth bosibl ar gyfer cyfrifiaduron yn tyfu, gan gynnwys unedau prosesu canolog 64-did ARM, prosesyddion graffeg, ac unedau prosesu canolog amlgraidd gan Intel. Gall dewis y saernïaeth orau ar gyfer cymhwysiad fod yn dasg anodd, felly nod gwasanaeth cyfrifiadura perfformiad uchel Haen 2 GW4 yw cynnig mynediad at amrywiaeth eang o'r saernïaethau newydd mwyaf addawol, gyda phob un ohonynt yn defnyddio'r un casgliad o feddalwedd...”
"Bydd y system yn cynnig amgylchedd datblygu rhagorol i GW4 a'r gymuned ehangach yn y DU", meddai'r Athro Martyn Guest, Cyfarwyddwr Uwch-gyfrifiadura ar gyfer Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd. "Mae'r newid presennol mewn saernïaethau cyfrifiadura yn cynnig cyfle cyffrous i fyd gwyddoniaeth – cyfle y gellir ei lywio drwy asesu'r effaith y mae saernïaeth yn ei chael ar berfformiad codau cymhwysiad allweddol...”
Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Deon Ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac Athro Cyfrifiadura Symudol a Biogymdeithasol: "Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer y DU..."
Mae'r GW4 Isambard prosiect yn enghraifft o gydweithio rhwng prifysgolion a byd diwydiant, ac yn dangos bod sgiliau arloesedd digidol De-orllewin Lloegr a De-ddwyrain Cymru yn arwain y byd, fel y nodwyd yng nghanfyddiadau'r Archwiliad Arloesedd a Gwyddoniaeth yn ddiweddar.
"Yn Cray, ein cenhadaeth yw helpu ein cwsmeriaid i ddatrys y problemau technegol a gwyddonol mwyaf cymhleth, ac rydym bob amser yn gwerthuso technolegau newydd sy'n gallu helpu yn hynny o beth," meddai Adrian Tate, cyfarwyddwr Labordy Ymchwil EMEA Cray. "Rydym yn teimlo'n gyffrous iawn i fod yn rhan o'r fenter gydweithredol bwysig hon gyda GW4 a'r Swyddfa Dywydd, wrth i ni gydweithio i archwilio a gwerthuso gwahanol dechnolegau prosesu mewn strwythur unedig...”
Dywedodd Paul Selwood, Rheolwr Optimeiddio Cyfrifiadura Perfformiad Uchel yn y Swyddfa Dywydd: "Mae'r Swyddfa Dywydd yn gyffrous iawn i fod yn rhan o'r prosiect hwn, sy'n ychwanegu at fentrau cydweithredol gyda Cray a Chynghrair GW4...”
Sefydlwyd GW4 yn 2013 ac mae'n dod â phedair prifysgol ymchwil-ddwys flaenllaw ynghyd: Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg. Ei nod yw cryfhau'r economi ar draws y rhanbarth drwy gynnal ymchwil arloesol gyda phartneriaid ym myd diwydiant.