Dathlu pen-blwydd yn 100 oed
7 Rhagfyr 2012
Mae'r awdur a ysgrifennodd fywgraffiad am fywyd a gwaith prifathro cyntaf y Brifysgol wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed.
Roedd Neville Masterman yn hanesydd a addysgodd yn Budapest cyn yr Ail Ryfel Byd ac ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddarach, a dathlodd ei ben-blwydd arbennig ar 28 Tachwedd 2012.
Cyhoeddwyd ei lyfr, Viriamu Jones 1856-1901, Pioneer of the Modern University, ym 1957. Roedd y llyfr yn trin a thrafod bywyd John Viriamu Jones a oedd yn ffisegydd ifanc disglair a benodwyd yn Brifathro cyntaf Caerdydd ac yntau'n 27 oed yn unig.
Wrth sôn am Neville, dywedodd David Boucher, Athro Damcaniaeth Wleidyddol a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol yr Ieithoedd Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth: "Drwy gydol gyrfa hir a disglair Neville Masterman fel hanesydd, daeth yn arbenigwr mewn gwleidyddiaeth a materion cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys diwygio prifysgolion. Ef yw awdur y bywgraffiad o'n Prifathro cyntaf, Viriamu Jones. Roedd y llyfr yn seiliedig ar drafodaeth ar y BBC i goffau canmlwyddiant geni'r Prifathro ym 1956.
"Mae Neville yn parhau'n weithgar ac mae'n trefnu clwb cinio ym Mhrifysgol Abertawe bob dydd Gwener ar gyfer cyfeillion a chydweithwyr."