Newyddiaduraeth gymunedol – bod yn rhan ohoni
7 Rhagfyr 2012
Gwahoddir ymchwilwyr, meddylwyr ac ymarferwyr blaenllaw ym maes newyddiaduraeth gymunedol i gynhadledd yn y Brifysgol yn y Flwyddyn Newydd i edrych ar arloesi a chyfleoedd yn y sector hwn sy'n prysur esblygu.
Caiff y gynhadledd, a gyflwynir gan y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, ei chynnal ddydd Mercher 16 Ionawr 2013 a bydd yn archwilio'r ymchwil ddiweddaraf a phrofiad ymarferol o ran newyddiaduraeth hyperleol a chymunedol.
Bydd y gynhadledd hefyd yn archwilio'r potensial am ymgysylltu â chymunedau a'u grymuso gan ddefnyddio technolegau digidol a rhwydweithiau cymdeithasol mewn ffyrdd arloesol, cost isel a chynaliadwy.
Dywedodd yr Athro Richard Sambrook, Cyfarwyddwr y Ganolfan Newyddiaduraeth yn yr Ysgol: "Mae newyddiaduraeth gymunedol yn dod i'r amlwg fel ffordd arloesol o lenwi'r bwlch newyddion a grëir gan ddirywiad papurau newydd lleol ynghyd â rhai enghreifftiau cyffrous ac ysbrydoledig o'r hyn y gellir ei wneud heb fawr ddim cost, a hynny gydag angerdd, sgil a dyfalbarhad. Mae gan y sector hwn botensial enfawr i greu maes newydd ac annibynnol wedi'i wneud gan gymunedau ac ar eu cyfer. Mae angen i bobl leol ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth a barn o ran yr hyn sydd ar garreg eu drws ynghyd â meddu ar fan i bobl eraill glywed eu llais.
"Yn debyg i bob maes menter newydd, mae angen meithrin a rhwydweithio ymarferwyr ac i ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd a ffactorau allweddol ar gyfer llwyddiant. Dyna pam mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Caerdydd yn dod â chyfranogwyr blaenllaw yn y maes at ei gilydd."
Bydd siaradwyr yn y gynhadledd yn cynnwys Jan Schaffer, Rheolwr-gyfarwyddwr y Sefydliad Newyddiaduraeth Ryngweithiol yn Washington DC a Damian Radcliffe, awdur yr adolygiad cyntaf o'r sector yn y DU.
Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar gael yn: http://caerdydd.ac.uk/jomec/conference/community_journalism_conference/index.html