Presgripsiwn newydd ar gyfer meddygaeth
19 Ionawr 2012
Mae myfyrwyr meddygaeth Caerdydd ar fin gweithio'n agosach â myfyrwyr gofal iechyd eraill fel rhan o dîm amlbroffesiynol modern fel bod cleifion yn gallu cael y gofal mwyaf diogel posibl, yn ôl Uwch Ddarlithydd newydd y Brifysgol mewn Addysg Feddygol Ryngbroffesiynol.
Mae Pamela Bradley yn ymuno ag Ysgolion Meddygaeth a Fferylliaeth y Brifysgol i ddatblygu cyfleoedd addysgol newydd wedi'u cynllunio i addysgu myfyrwyr sut i weithio mewn timau i wella diogelwch cleifion, lleihau gwallau rhagnodi, ymarfer sgiliau clinigol a datblygu rhesymu arbenigol.
Meddai Pamela, sy'n ymuno â'r Brifysgol ar ôl rolau addysgu blaenorol yn Ysgol Feddygaeth Peninsula yn Plymouth ac ym Mhrifysgol Lerpwl, y bydd hi'n tynnu ar ei phrofiadau o'i gyrfa gynnar fel Nyrs Arbenigol Diabetes i wella dysgu rhyngbroffesiynol.
"Sylweddolais yn gynnar iawn, wrth gyflwyno gofal cyfannol i glaf â diabetes, fod angen cyfathrebu a chydweithio ardderchog gyda nifer fawr o weithwyr meddygol, nyrsio a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill," meddai Pamela Bradley.
"Rwy'n credu'n gryf bod cael myfyrwyr i ddysgu gyda'i gilydd mor gynnar â phosibl yn allweddol ar gyfer gwella gofal cleifion ymhellach yma yng Nghymru," meddai.
Mae Pam wedi bod yn ymglymedig ag addysgu sgiliau clinigol a chyfathrebu i fyfyrwyr meddygaeth ers dros 15 mlynedd.
Gyda gradd mewn nyrsio a gradd Meistr mewn addysg feddygol, derbyniodd Pam Wobr Cymrodoriaeth Addysgu a Dysgu o Brifysgol Plymouth yn 2005. Yn 2009, derbyniodd Wobr Gyntaf mewn gwobrwyo rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu ar gyfer "Gwerthuso Addysgu a Dysgu Sgiliau Clinigol" oddi wrth Ganolfan Bwnc ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth yr Academi Addysg Uwch.
Yn 2010, cafodd ei derbyn fel Cymrawd Academi'r Addysgwyr Meddygol.
Dywedodd yr Athro John Bligh, Deon Addysg Feddygaeth, yr Ysgol Feddygaeth: "Rydym yn ymrwymedig i Gaerdydd i feddygon sy'n graddio a all gyfuno eu gwybodaeth am y wyddoniaeth fwyaf diweddar gyda sgiliau clinigol rhagorol i wella diogelwch cleifion yn y GIG.
"Mae bron holl ofal clinigol y GIG yn cael ei gyflwyno gan dimau amlbroffesiynol felly mae'n hanfodol bod myfyrwyr meddygaeth yn dysgu sut i weithio'n effeithiol mewn timau yn gynnar."
Rhan o gyfrifoldebau Pam Bradley yw gweithio'n agos â chydweithwyr yn yr Ysgol Fferylliaeth. Mae Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd yn un o ysgolion fferylliaeth arweiniol y DU, a nod y bartneriaeth hon â'r Ysgol Feddygaeth yw datblygu ffyrdd newydd i helpu myfyrwyr meddygaeth a myfyrwyr fferylliaeth i ddysgu nid yn unig y wyddoniaeth sydd y tu ôl i'r defnydd o gyffuriau, ond hefyd sut i roi presgripsiynau'n ddiogel yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Gary Baxter, Pennaeth yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol: "Mae penodiad Pam yn gyfle unigryw a chyffrous i fyfyrwyr fferylliaeth yng Nghaerdydd ddysgu gyda myfyrwyr meddygaeth. Yn hanesyddol, mae eu haddysg bob amser wedi bod ar wahân. Bydd penodiad Pam yn meithrin cyfle dysgu rhyngbroffesiynol i fyfyrwyr israddedig Caerdydd a fydd, yn y pen draw, o fudd i ofal cleifion."