Ewch i’r prif gynnwys

Y genhedlaeth nesaf o feddyginiaethau

7 Rhagfyr 2012

Dr Arwyn Jones
Dr Arwyn Jones

Mae Caerdydd yn rhan o gonsortiwm Ewropeaidd o bwys sy'n ceisio gwella'r broses o droi molecylau therapiwtig newydd yn feddyginiaethau effeithiol.

Mae'r prosiect COMPACT €30M a ariennir gan Fenter Meddyginiaethau Arloesol Ewrop (IMI) a Ffederasiwn Cymdeithas a Diwydiannau Fferyllol Ewrop (EFPIA) wedi'i ddylunio i gyflwyno a thargedu biofferyllaeth yn well ar sail macromolecylau biolegol fel genynnau a phroteinau.

Dr Arwyn Jones o'r Ysgol Fferyllaeth a'r Gwyddorau Fferyllol sy'n arwain rôl Caerdydd yn y rhaglen ymchwil bum mlynedd o hyd. Dr Mark Gumbleton, sydd hefyd o'r Ysgol, a Dr Pete Watson a'r Athro Paola Borri o Ysgol y Biowyddorau yw aelodau eraill y tîm.

Meddai Dr Jones: "Mae y tu mewn i gelloedd yn cynnwys miloedd o dargedau therapiwtig newydd ar gyfer trin clefydau fel canser, niwroddirywiad a chlefydau genetig prin. Yn gynyddol, endidau biolegol yw'r therapiwtegau hyn ac mae angen fector i'w cyflwyno y tu mewn i gelloedd.

"Datrys y dagfa o gyflwyno biofferyllaeth i mewn i gelloedd yw un o brif orchwylion COMPACT. Gyda lwc, bydd yn arwain at ddatblygu systemau newydd o gyflwyno cyffuriau sy'n cyflwyno therapiwtegau'n effeithlon i gyrraedd targedau mewngellol.

Mae Caerdydd yn gysylltiedig â'r ymchwil hwn ochr yn ochr â 13 sefydliadau academaidd Ewropeaidd, dau gwmni biodechnegol a saith cwmni fferyllol blaenllaw. Mae pob un o'r rhain ymysg y ceffylau blaen yn Ewrop ym maes y gwyddorau fferyllol, nanodechnoleg, bywydeg, cemeg, peirianneg a bioddelweddu.

Meddai Ekkehard Leberer, o Sanofi a chydlynydd gwyddonol COMPACT: "Mae consortiwm COMPACT yn cynnig posibiliadau ardderchog i ddod ynghyd er mwyn mynd i'r afael â her o bwys yn natblygiad biotherapiwtegau arloesol drwy gyfuno ymchwil sylfaenol academaidd a datblygu cyffuriau yn y diwydiant fferyllol."

Ychwanegodd Enrico Mastrobattista o Brifysgol Utrecht, sy'n arwain y consortiwm academaidd: "Mae'r bartneriaeth gyhoeddus-breifat unigryw hon rhwng sefydliadau o bwys yn y maes fferyllol yn gyfle hynod gyffrous i weithio ar y broblem o gyflwyno biofferyllau. Dim ond gyda chydweithrediad ar y raddfa hon y gallwn fynd i'r afael â rhai o'r problemau brys sy'n amharu ar ddatblygu biofferyllau cychwynnol yn feddyginiaethau defnyddiol."