Cynghori ar bolisi Cymru
19 Ionawr 2012
Mae'r Athro Bob Lee o Ysgol y Gyfraith, Caerdydd, wedi cael ei benodi'n Ymgynghorydd Arbennig i Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cadarnhawyd y penodiad yr wythnos hon fel rhan o adolygiad y Pwyllgor o'r achos busnes o greu un corff amgylcheddol ar gyfer Cymru.
Dywedodd yr Athro Lee, Ysgol y Gyfraith, Caerdydd: "Bydd yr adolygiad o'r achos busnes yn archwilio materion fel risg perfformiad, cyllid, pwerau rheoleiddio, pa effeithlonrwydd gwirioneddol fydd yn cael ei wneud o ganlyniad i'r uno a sut bydd y tri chorff yn dod at ei gilydd fel un sefydliad."
Ar 29 Tachwedd, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd ar gyfer Cymru, John Griffiths AC, y bwriad i greu un corff amgylcheddol a fydd yn dod â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru (CCC), Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (AAC) at ei gilydd.
Bydd y Pwyllgor yn adolygu'r achos busnes gan archwilio'r costau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chreu un corff, sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am ffurf a swyddogaethau'r corff newydd.
Mae'r achos busnes yn argymell bod un corff yn dod ag AAC, CCGC a CCC at ei gilydd, a dylai fod: yn fwy effeithiol, yn cyflawni canlyniadau amgylcheddol gwell; a chael y potensial i greu arbedion sylweddol y gellir eu hailfuddsoddi.
Mae'r Athro Lee yn arbenigwr mewn cyfraith amgylcheddol a'i rôl fydd darparu arweiniad i'r Pwyllgor wrth iddyn nhw graffu'r achos busnes.
Mae adolygiad yr achos busnes yn digwydd ochr yn ochr ag ymgynghoriad cyhoeddus i'r corff amgylcheddol unigol. Y bwriad yw cael corff cysgodi yn gweithredu o fis Ebrill 2012 gyda'r corff amgylcheddol unigol yn dechrau ei waith yn ffurfiol o fis Ebrill 2013.