Operation Ouch! Y Brifysgol yn cymryd rhan mewn cyfres CBBC newydd
11 Rhagfyr 2012
Mae Dr Kelly BéruBé o Ysgol y Biowyddorau wedi cymryd rhan mewn cyfres feddygol newydd sbon ar gyfer CBBC o'r enw Operation Ouch!
Caiff y bennod, o'r enw When snot is green and when it's snot, ei darlledu ar ddydd Mercher 19 Rhagfyr ar sianel CBBC .
Cafodd y gyfres newydd hon, a gyflwynir gan yr efeilliaid unfath Dr Chris a Dr Xand van Tulleken, ei chynllunio i gyfleu ffeithiau anhygoel am y corff dynol i wylwyr iau.
Mae fformat y rhaglen yn dilyn y cyflwynwyr wrth iddynt arbrofi ac archwilio eu ffordd drwy fyd meddygaeth a bioleg, gan ddangos ac esbonio'r pethau hynod y gall ein cyrff eu gwneud.
Ym Mhennod 12, When snot is green and when it's snot, mae Dr Chris van Tulleken yn ymweld â Dr Kelly BéruBé yn Ysgol y Biowyddorau i ddysgu am realiti angenrheidiol mwcws a fflem, gan gynnwys ein hamddiffyn rhag germau firaol, bacteriol a ffwngaidd.
'Mae mwcws wedi cael ei gymharu ag olew mewn injan car a hebddo, mae'r injan yn stopio,' meddai Dr Kelly BéruBé, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil yr Ysgyfaint a Gronynnau.
Mae pilenni sy'n cynhyrchu mwcws yn leinio'r geg, y trwyn, y sinysau, y gwddf, yr ysgyfaint, y llwybrau gastroberfeddol a throethgendhedlol, a'r systemau gweledol a chlywedol, ac maent yn gweithio fel blanced i amddiffyn yr arwynebau epitheliol hyn.
'Os nad ydych yn cadw'r meinweoedd hyn yn llaith ac yn iredig bydd gennych wendid yn arfwisg eich corff, oherwydd bydd y meinweoedd hyn yn sychu, yn cracio ac yn caniatáu i germau fynd i mewn i'ch system,' meddai Dr BéruBé. 'Mae angen i amgylchedd ein llwybrau anadlu fod yn ddiheintiedig, ac mae'r mwcws gludiog yn rhwystro malurion nas dymunir rhag cyrraedd rhannau isaf yr ysgyfaint.'
Yn ystod y bennod mae Dr BéruBé yn dangos i Dr Chris van Tulleken, drwy archwilio lliw, ansawdd a gludedd ei fflem a'r malurion sydd ynddi, ei bod yn bosibl pennu statws ei iechyd, pa un a yw'n byw yn y ddinas neu yng nghefn gwlad a hyd yn oed os yw'n bwyta siocled neu gynnyrch llaeth. Mae Dr BéruBé yn cymryd fflem o'i ysgyfaint ac yn paratoi samplau microsgop er mwyn dangos iddo sut i wneud diagnosis o glefydau anadlol a rhagfynegi galwedigaeth a ffordd o fyw unigolyn.
Maent hefyd yn edrych ar beth sy'n digwydd pan fyddwn yn cael annwyd cyffredin. 'Pan fydd annwyd arnoch, mae eich system imiwnedd yn anfon llu o gelloedd gwaed gwyn o'r enw niwtroffiliau i'r ardal. Mae'r celloedd hyn yn cynnwys ensym lliw gwyrdd a gall niferoedd mawr ohonynt droi'r mwcws yn wyrdd,' esbonia Dr BéruBé.
Mae'r bennod wedi'i chynllunio i addysgu plant bod angen i'r holl feinweoedd ac organau dynol sy'n agored i'r amgylchedd (h.y. y systemau anadlol, gastroberfeddol, troethgenhedlol, atgenhedlol, clywedol a gweledol), gael eu hamddiffyn rhag germau firaol, bacteriol a ffwngaidd.
'Yn Operation Ouch, rydym wedi ceisio gwneud rhaglen y byddem ni wedi'i mwynhau pan oeddem yn 10 mlwydd oed! Gwnaethom ddechrau ffilmio drwy feddwl y gallem esbonio sut mae'r corff yn gweithio yn rhwydd ond mewn gwirionedd rydym wedi darganfod llawer mwy amdano ein hunain,' meddai'r cyflwynydd Dr Xand van Tulleken.
Gallwch wylio Dr Kelly BéruBé ar ddydd Mercher 19 Rhagfyr am 5.45pm ar Sianel CBBC.