‘Celloedd ffyrnig’ a diabetes
16 Ionawr 2012
Mae ymchwil newydd gan y Brifysgol wedi dangos bod celloedd sy'n cynhyrchu inswlin yn cael eu dinistrio'n anfwriadol gan y celloedd T sy'n lladd yn y corff dynol.
Mae'r astudiaeth yn rhoi'r dystiolaeth gyntaf o'r dull hwn ar waith a gall gynnig dealltwriaeth newydd o'r hyn sy'n achosi diabetes Math 1.
Bu'r Athro Andy Sewell, sydd o'r Ysgol Feddygaeth ac sy'n arbenigo mewn celloedd T dynol, yn cydweithio ag arbenigwyr diabetes o Goleg y Brenin, Llundain i ddeall rôl celloedd T yn natblygiad diabetes Math 1 yn well.
Ynyswyd un o gelloedd T claf â diabetes Math 1 i weld moleciwlau'n rhyngweithio mewn modd unigryw gan beri i'r celloedd yn y pancreas sy'n cynhyrchu inswlin gael eu lladd.
"Mae gan rywun ddiabetes Math 1 os yw system imiwnedd y corff yn ymosod ac yn dinistrio'r celloedd yn y pancreas sy'n cynhyrchu inswlin. Dyma'r hormon sy'n rheoli lefelau siwgr yn y gwaed a gall prinder inswlin fod yn angheuol os na chaiff ei drin," meddai'r Athro Sewell.
Ychwanegodd, "Ni ddeallir yn llawn sut mae'r corff yn ymosod ar ei gelloedd ei hun yn y pancreas sy'n cynhyrchu inswlin. Mae ein canfyddiadau'n dangos sut y gall celloedd T sy'n lladd chwarae rôl bwysig mewn afiechyd awtoimiwnedd fel diabetes, Rydym wedi cael y cipolwg cyntaf erioed ar sut y gall celloedd T sy'n lladd ymosod ar gelloedd ein cyrff ein hunain i achosi afiechyd".
Ariannwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil Biodechnoleg a Biolegol y DU (BBSRC) ac fe ddefnyddiodd Sefydliad Ymchwil i Ddiabetes mewn Pobl Ifanc (JDRF) gyfleusterau a ddarparwyd gan Ffynhonnell Diamond i'w gynnal. Cyhoeddwyd yr ymchwil yn Nature Immunology, ac mae'n dangos bod derbynnydd y celloedd T sy'n lladd yn defnyddio dull annormal o rwymo i adnabod celloedd sy'n cynhyrchu inswlin.
Meddai cydawdur yr astudiaeth, yr Athro Mark Peakman o Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR) Canolfan Ymchwil Biofeddygol Coleg y Brenin, Llundain ac Ymddiriedolaeth Sefydliad Guy's and St Thomas' y GIG: "Mae'r cipolwg cyntaf hwn o sut mae celloedd T yn cysylltu â'r celloedd sy'n creu insiwlin yn rhoi golau newydd ar y maes ac yn cynyddu ein dealltwriaeth o beth allai achosi diabetes Math 1.
"Caiff y wybodaeth hon ei defnyddio yn y dyfodol i'n helpu ni i ddarogan pwy allai gael yr afiechyd yn ogystal â datblygu dulliau newydd i'w atal. Dal yr afiechyd yn gynnar yw ein nod cyn i ormod o gelloedd sy'n cynhyrchu insiwlin gael eu niweidio."
Tybir bod y dull anarferol hwn o rwymo yn galluogi celloedd T i oroesi'r broses a ddyluniwyd i gael gwared ar gelloedd T awtoymatebol y corff.
Mae strwythur derbynnydd y celloedd T sy'n lladd a rwymir i beptid yr insiwlin yn dangos bod y rhyngweithio'n canolbwyntio'n bennaf ar ran fechan o'r moleciwl yn unig.
Mewn astudiaeth arall a gyhoeddwyd yn Journal of Biological Chemistry, mae'r un tîm o Gaerdydd a Choleg y Brenin wedi dangos bod y dull rhwymo penodol hwn yn galluogi derbynnydd y celloedd T i ymateb i dros 1.3 miliwn o beptidau eraill â siâp moleciwlaidd gwahanol.
Hwyrach bod y gallu hwn i rwymo peptidau â llu o wahanol siapiau yn awgrymu i ni sut mae afiechydon awtoimiwnedd yn dechrau. Mae'n bosibl y cafodd y celloedd T hyn eu magu i frwydro yn erbyn afiechyd drwy un o'r 1.3 miliwn o beptidau eraill y maent yn eu hadnabod ond eu bod hefyd wedi adnabod inswlin yn anfwriadol ar ôl i'r haint eu rhybuddio.
Mae diabetes yn disgrifio afiechydon lle mae gan unigolyn lefel siwgr uchel yn y gwaed. Mae diabetes a'i gymhlethdodau yn faich mawr ar y gwasanaeth iechyd ac mae dros 10% o gyllideb flynyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei wario yn y maes hwn.
Mae'r tîm bellach yn gobeithio y bydd creu gwell dealltwriaeth o'r broses hon yn eu rhoi mewn sefyllfa llawer cryfach i atal neu hyd yn oed cael gwared ar yr afiechyd.
"Mae canlyniadau gwaith yr Athro Sewell yn rhoi gwybodaeth newydd ac allweddol am bathogenesis T1D" meddai Teodora Staeva, Cyfarwyddwr Rhaglen Therapïau Imiwnedd JDRF. "Mae'n bleser gan JDRF gefnogi ymchwil fel hwn fydd yn datblygu biofarcwyr a therapïau ataliol yn gyflymach ar gyfer diabetes Math 1."
Dolenni cysylltiedig:
Cewch ragor o wybodaeth am ymchwil yr Athro Sewell i gelloedd T yn:www.tcells.org