Dealltwriaeth newydd o ddementia sy’n gysylltiedig ag AIDS
13 Ionawr 2017
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Califfornia (UCLA) a Phrifysgol Caerdydd wedi torri tir newydd yn y ddealltwriaeth o ddementia sy'n gysylltiedig ag AIDS, drwy ddarganfod rôl protein niwronau y cafwyd ei fod hefyd yn effeithio ar alluoedd dysgu mewn cyfranwyr iach.
Dywedodd yr Athro Kevin Fox, a arweiniodd y gwaith yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Mae ein gwaith yn cynrychioli newid mawr yn y ddealltwriaeth o sut mae dementia cysylltiedig ag AIDS yn gweithio..."
Yn wreiddiol, sgrinio ymddygiad llygod ar hap yn UCLA oedd testun y gwaith ymchwil newydd, lle datgelwyd bod gan rai llygod mwtant gof gwell nag eraill. Datgelodd profion pellach nad oedd gan y llygod â chof gwell broteinau CCR5 yn eu niwronau. Mewn cyferbyniad, roedd anifeiliaid oedd â lefel ormodol o’r protein CCR5 yn arafach i ddysgu, gan ddatgelu effaith CCR5 ar niwronau a’u gallu i godio atgofion.
Roedd y tîm eisoes yn gwybod mai’r protein CCR5 oedd y derbynnydd y mae AIDS yn ei ddefnyddio i heintio celloedd imiwnedd, a bod cleifion AIDS yn dioddef o ddementia. Ar ôl gweld y cysylltiad rhwng CCR5 a dysgu wrth sgrinio ymddygiad llygod, rhesymwyd y gallai actifiant y protein mewn celloedd niwronau yn sgîl haint HIV gyfyngu ar swyddogaethau’r niwronau a dysgu. Pan gyflwynwyd y rhan o HIV sy’n ymlynu wrth CCR5 i'r ymennydd, cafwyd bod cof llygod arferol a’u gallu i ddysgu yn lleihau. Mae hyn yn awgrymu bod HIV yn debygol o gynhyrchu dementia cysylltiedig ag AIDS trwy gynyddu lefelau naturiol actifiant CCR5 a chyfyngu ar hyblygrwydd arferol y celloedd gan eu hachosi i fethu codio atgofion yn briodol.
"Mae'n gyffrous iawn y gallai’r cyffuriau sy’n rhwystro CCR5, sydd eisoes ar y farchnad, gael eu defnyddio i drin pob math o diffygion y cof!" meddai Alcino Silva, Athro Niwrofioleg a Seiciatreg yn Ysgol Meddygaeth David Geffen UCLA a Sefydliad Niwrowyddoniaeth ac Ymddygiad Dynol Semel.
Mae tua 30% o’r oedolion HIV-positif a 50% o'r babanod HIV-positif yn dioddef diffygion gwybyddol -problem glinigol sylweddol sy'n gysylltiedig â haint HIV. Credid gynt fod dementia cysylltiedig ag AIDS yn cael ei achosi gan effeithiau HIV ar gelloedd imiwnedd, sef effeithio ar yr ymennydd yn anuniongyrchol drwy ymosod ar y system imiwnedd a chreu llid.