Gwobr Cyflawniad Oes i Ddarlithydd Optometreg
13 Rhagfyr 2012
Canmolwyd Uwch Ddarlithydd o'r Brifysgol trwy gyflwyno gwobr cydnabyddiaeth oes iddi am ei gwaith ymchwil ym maes problemau gweledol plant â syndrom Down.
Cyflwynwyd Gwobr Cyflawniad Oes yng Ngwobrau Deall Anabledd 2012 i Dr Maggie Woodhouse o'r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg. Canmolwyd Dr Woodhouse am ei hymrwymiad personol i astudio datblygiad gweledol a gwybyddol plant ifanc â syndrom Down yn y tymor hir.
Ymhlith yr acolâdau niferus a roddwyd, mynegodd y beirniaid edmygedd arbennig am ymdrechion Dr Woodhouse yn cynorthwyo nifer o blant ysgol â nam ar eu golwg trwy gydol ei gyrfa; y cyngor y mae wedi'i roi i rieni ac athrawon, ac ymdrechion ei thîm ymchwil wrth godi ymwybyddiaeth am sut i oresgyn anawsterau golwg i bobl ifanc â syndrom Down.
Caiff y Gwobrau Deall Anabledd, sef menter Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a'r Fro, eu cynnal bob blwyddyn i gydnabod cyflawniadau grwpiau ac unigolion sydd wedi dangos ymgysylltiad gweithredol wrth gefnogi pobl ag anawsterau dysgu.
Dywedodd Dr Woodhouse, yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg: "Mae'n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon, sydd hyd yn oed yn fwy arbennig gan mai rhieni un o'm cleifion a'm henwebodd."
Dyma a ddywedodd Pennaeth yr Ysgol Optometreg, yr Athro Tim Wess, wrth longyfarch Dr Woodhouse ar ennill y wobr:
"Mae Maggie a'i thîm wedi dangos y gallant gael effaith go iawn a pharhaus ar ansawdd bywyd a chyfleoedd dysgu'r rheiny sydd â syndrom Down trwy bontio'r bwlch rhwng eu gwaith ymchwil a'r gymuned o'u hamgylch."