Cynorthwyo myfyrwyr Lefel Uwch
12 Ionawr 2012
Mae'r Brifysgol wedi bod yn cynnal sesiynau adolygu am ddim ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch lleol fydd yn sefyll arholiadau Cemeg a Ffiseg.
Cafodd pob myfyriwr o ysgolion gwladol dinesig Caerdydd y cyfle i ddod i'r Brifysgol i'w helpu nhw baratoi ar gyfer eu harholiadau a sefyll papurau ffug.
Mae'r sesiynau adolygu cychwynnol yn rhan o ddosbarthiadau meistr sy'n rhoi tri diwrnod o gymorth, gan gynnwys dau ddiwrnod o adolygu parhaus cyn ymweld â'r Brifysgol ar y diwrnod olaf. Yn ogystal â chyfleoedd i adolygu, mae myfyrwyr hefyd yn cael cyngor am beth i'w wneud ar ôl yr arholiad, gan gynnwys cyflwyno ceisiadau i brifysgolion a'r gyrfaoedd sydd ar gael iddynt ar sail y pynciau y byddant yn eu dewis. Mae'r disgyblion hefyd yn cael y cyfle i gwrdd â staff academaidd a allai fod yn ddarlithwyr iddynt yn y dyfodol, yn ogystal â chael blas ar sut beth yw bod yn fyfyriwr mewn prifysgol.
Meddai Louise Gray, Rheolwr Ehangu Mynediad yng Nghanolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydym am gael rhagor o geisiadau gan bobl ifanc talentog. Mae'r sesiynau adolygu wedi'u paratoi i gynyddu'r nifer sy'n llwyddo yn y pynciau hyn gan gynyddu nifer y myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais i fynd i'r brifysgol yn y pen draw."
Susan Miles, sy'n ddarlithydd Ffiseg/Rheolwr Ansawdd a Gweithredoedd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, fu'n cynorthwyo'r myfyrwyr yn y sesiynau adolygu Ffiseg. Meddai: "Roedd y diwrnodau adolygu dwys yn y Brifysgol o les mawr i'r myfyrwyr Uwch Gyfrannol. Rhoddodd y rhain gyfle gwerthfawr i'r myfyrwyr baratoi ar gyfer eu harholiadau ym mis Ionawr. Gyda lwc, byddant yn cael canlyniadau ardderchog. Roedd gallu gweithio mewn prifysgol am y dydd yn brofiad gwych i'r myfyrwyr. Bydd llawer ohonynt yn cyflwyno cais i fynd i'r brifysgol y flwyddyn nesaf ac rwy'n siwr y bydd hyn wedi'u hannog. Mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis mynd i Brifysgol Caerdydd ar ôl astudio eu cyrsiau yn y coleg. Mae cysylltiadau cryf rhwng Coleg Caerdydd a'r Fro a'r Brifysgol ac rydym yn gobeithio eu cryfhau."
Meddai Lauren Powell, un o'r myfyrwyr a gymerodd ran yn y sesiwn adolygu Ffiseg: "Roedd yn gyfle i mi a'r myfyrwyr eraill fod mewn lle digynnwrf lle gallwn astudio ac adolygu gyda'n cyd-fyfyrwyr. Fedra i ddim rhoi digon o glod i'r rhai a gymerodd ran, a diolch o galon i'r rhai a roddodd o'u hamser eu hunain i gynorthwyo ein paratoadau olaf cyn ein harholiadau."
Mae'r Brifysgol yn bwriadu cynnal rhagor o sesiynau adolygu cyn arholiadau'r haf.